Rhys Iorwerth
Bardd a phrifardd ydy Rhys Iorwerth (ganwyd 1 Ebrill 1983). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011[1] a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023[2]. Mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.
Rhys Iorwerth | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1983 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, llenor |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd ym Mangor a chafodd ei fagu yng Nghaernarfon a mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen.
Wedi gorffen yn yr ysgol symudodd i Gaerdydd gyda'r bwriad o astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Newidiodd drywydd gan astudio yn Adran Gymraeg y Brifysgol lle graddiodd gyda BA yn 2004 ac yna derbyniodd ei MA yn 2005. Yn dilyn hynny bu'n gweithio am gyfnod i'r gwasanaeth ymchwil yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ddiweddarach symudodd yn ôl i Gaernarfon gan weithio fel cyfieithydd llawrydd.
Llyfryddiaeth
golygu- Un Stribedyn Bach (Barddoniaeth - Carreg Gwalch 2014)
- Abermandraw (Nofel - Gomer 2017)
- Carthen Denau: Cerddi'r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau'r Stamp 2019)
- Cawod Lwch (Barddoniaeth - Carreg Gwalch 2021)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhys Iorwerth yn cipio'r Gadair , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2011. Cyrchwyd ar 30 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Rhys Iorwerth". Golwg360. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.