Gwrin
Sant Cernyweg a Chymreig o'r 6g oedd Sant Gwrin a chyfaill i Pedrog, nawddsant Cernyw. Roedd ganddo ddwy eglwys yng Nghernyw: y naill yn Bodmin a'r llall yn Gorran Haven. Ym Mhowys, fe'i coffeir yn eglwys ac yn enw pentref Llanwrin.
Gwrin | |
---|---|
Ganwyd | Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 560 |
Disgrifir y modd y daeth Pedrog o hyd i'r meudwy Gwrin yn llawysgrif ' Bywyd Sant Pedrog gan Stant Méen'; wedi i Bedrog adael Sant Wethnog, darganfu Vuronus, 'meudwy hynod o sanctaidd' a derbyniodd fwyd a lloches ganddo. Yn fuan wedyn gadawodd Gwrin y lle, a bu Pedrog ei hun yn gyfrifol amdano. Mae'r Gotha MS yn disgrifio'r lle yn llawnach gan nodi ei fod, 'mewn dyffryn... ac oherwydd mai mynachod oedd y cyntaf i fyw yno... gelwir y lle yn Bothmena (h.y. Bodmin: 'man byw neu 'bod' y myneich').[1] Mae hefyd yn nodi i 'Wronus' symud i fan a oedd ddiwrnod o daith i'r de lle treuliodd gweddill ei ddyddiau; ceir lle o'r enw 'Sant Gorran' chwe milltir i'r de o St. Austell a cheir 'St Gorran's Well' ym mynwent eglwys Bodmin.[2]
Enw
golyguCeir nifer o amrywiadau ar yr enw: Gorran neu Guronus; Guron yw'r ffurf a ddefnyddir yn rhestr y Fatican yn y 10g (Reginensis Latinus 191). Ceir hefyd y ffurfiau cynharach: Sanctus Goranus (1086), Sancto Corono (sic) (1260) a Sancti Goroni (1261).[3]
Gweler hefyd
golygu- St Goran, pentref yng Nghernyw
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Collectanea, gol. Thomas Hearne, 1774, I.75
- ↑ A.W.Wade-Evans ar Wefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 28 Mawrth 2016
- ↑ B.L.Olson a O.J.Padel yn CMCS 12 (1986) tt.60-61, Gorronus (1270) a Goranus (1271) (LBS III.158).