Llanwrin

pentref ym Mhowys

Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Glantwymyn, Powys, Cymru, yw Llanwrin[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sy'n gorwedd yn nyffryn Afon Dyfi, dwy filltir ir gogledd ddwyrain o Fachynlleth; yn hanesyddol bu'r pentref yn Sir Drefaldwyn. Caiff y pentref ei henw o'r eglwys a oedd ar un cyfnod wedi ei chysegru i Sant Gwrin. yr hen enw oedd 'Llanwrin yng Nghyfeiliog'.[3]

Llanwrin
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwrin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6157°N 3.7925°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH787034 Edit this on Wikidata
Cod postSY20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Roedd y gymuned yn ffynu ar un tro, gyda'i gofaint, tafarndy a siop. Mae'r rhain eisoes wedi cau; tan yn ddiweddar, casgliad o dai yn ymestyn ar hyd y B4404 oedd Llanwrin. Ond yn 2007, dechreuwyd gwaith adeiladu ar dai newydd ger canol y pentref, gyda'r gobaith o adfywio'r ardal leol.

Mae Llanwrin yn enwog yn lleol am ei "Ddyn Gwellt" sy'n ymddangos yn eistedd ar y fainc yng nghanol y pentref rwan ac yn y man. Does neb yn gwybod o ble ddaw na i ble diflanai, ond maent yn ei golli pan nad yw o gwmpas.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]

Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig golygu

Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig yw enw'r eglwys, a saif i'r gogledd-orllewin i'r pentref, ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 15g. Cysegrwyd yr eglwys yn wreiddiol i Sant Gwrin. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn 2004 (rhif: 83006). Mae'n nodedig oherwydd ei hoed a chynifer o rannau gwreiddiol ee y to bwaog o dderw, sgrîn y gangell a'i ffenestri lliw hynod.[6] Fe'i hadnewyddwyd yn 1864 gan Benjamin Ferrey.

 
Llanwrin yn 2006

Enwogion golygu

Ym mhlwyf Llanwrin ceir hen blasdy Mathrafal, cartref y brudiwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn (c.1395-1386). Galwodd Harri Tudur yno ar ei ffordd i ymladd Brwydr Bosworth yn 1485.

Bu'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn offeiriad yma o 1876 hyd 1903.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan CPAT; adalwyd 2015
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Gwefan 'Gwydr Lliw yng Nghymru'; adalwyd 2015