Cossus cossus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Cossidae
Genws: Cossus
Rhywogaeth: C. cossus
Enw deuenwol
Cossus cossus
(Linnaeus, 1758)

Gwyfyn enfawr sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn drewllyd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod drewllyd; yr enw Saesneg yw Goat Moth, a'r enw gwyddonol yw Cossus cossus.[1][2] Mae i'w ganfod drwy Ewrop.

Mae'n wyfyn mawr a thrwm, gyda'i adenydd yn mesur 68–96 mm ac mae i'w weld yn hedfan rhwng Ebrill ac Awst.

Bwyd golygu

Arferai'r Rhufeiniaid ei fwyta, ar ôl ei besgi gyda blawd.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn drewllyd yn lindysyn sy'n bwydo o dan risgl coed llydanddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.