Gwyfyn y cadno
Macrothylacia rubi | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lasiocampidae |
Genws: | Macrothylacia |
Rhywogaeth: | M. rubi |
Enw deuenwol | |
Macrothylacia rubi (Linnaeus, 1758) |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn y cadno, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod y cadno; yr enw Saesneg yw Fox Moth, a'r enw gwyddonol yw Macrothylacia rubi.[1][2] Gellir canfod gwyfyn y lliflys yng ngorllewin Ewrop a chanol Asia.
40–65 m ydy lled adenydd yr oedolyn ac maen nhw'n hedfan rhwng Mai a Gorffennaf.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn y cadno yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Y Lindysen
golyguDyma gofnod Ieuan Roberts: "Tra'n cerdded ar 16 Hydref 2011 dros Esgair Fraith, Llanfair Clydogau, am bellter o haner milltir cyfrais 240 o ‘r siani flewog, i gyd yr un rhywogaeth, yn pori'r planhigion llysiau duon bach. Roeddent yn flewog iawn gyda chylchoedd o ddau liw brown amdanynt. Credaf mai lindys gwyfyn y cadno oeddynt. Nid oedd camera gennyf... Roeddwn wedi dod ar draws ychydig ar y Mynydd Bach y diwrnod cynt ac rwyf wedi dod ar eu traws yn gyffredin ar y tiroedd uchel.... Roedd 10 yno ar ochor y ffordd heddiw o fewn 3 llath i'w gilydd”.[3]
Dyma rai cofnodion eraill o’r un amser o’r flwyddyn:
- Rhobell, Rhydmain: 10 Hydref 1977 Never seen so many fox moth caterpillars, 1 every 1-2 yards..[4]
- Morfa Harlech 11 Hydref 1977: Fox moth caterpillar in Ammoph/Lotus/Bryum type area at Harlech point seen to be eating Erodium cic. also on Salix repens, also feeding on Rosa spinosissima near the golf course. Seems to be a good year for this species DB[4]
- 6 Hydref 2006 Gerallt Pennant yn rhyfeddu at yr holl wylunod y cadno ar y mynydd yn ddiweddar - wedi sylwi ar lawer fy hun
Mae’n debyg mai paratoi at aeafgysgu oedd rhain.
-
Wyau
-
Siani flewog
-
♂
-
♀
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Ieuan Roberts, Tywyddiadur Llên Natur
- ↑ 4.0 4.1 Llyfr cofnodion DB, yn Bwletin Llên Natur rhifyn 45-46