Gwyn Nicholls

chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Roedd Erith Gwyn Nicholls (15 Gorffennaf 187424 Mawrth 1939) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb ac enillodd 24 o gapiau i Gymru fel canolwr.

Gwyn Nicholls
Ganwyd15 Gorffennaf 1874 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1939 Edit this on Wikidata
Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata

Er iddo gael ei eni yn Lloegr, yn Westbury-on-Severn, Swydd Gaerloyw, dechreuodd Nicholls ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda Sêr Caerdydd cyn chwarae i Gaerdydd yn 1893. Treuliodd bron y cyfan o'i yrfa yn chwarae i Gaerdydd, gan chwarae iddynt am 18 tymor. Yr unig eithriad oedd hanner tymor gyda Casnewydd yn 1901-02 pan ddechreuodd fusnes golchfa yno.

Enillodd ei 24 cap dros Gymru rhwng 1896 a 1906, gan gynnwys deg gêm fel capten. Ef oedd capten Cymru pan enillwyd y Goron Driphlyg yn 1902. Er ei fod wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ar ddiwedd y tymor cynt, dychwelodd i fod yn gapten Cymru ar gyfer y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905. Aeth ar daith i Awstralia gyda tîm yr Ynysoedd Prydeinig yn 1899, ac ef oedd yr unig Gymro ar y daith yma.

Ar 26 Rhagfyr 1949 cynhaliwyd agoriad swyddogol "Gatiau Coffa Gwyn Nicholls" ym Mharc yr Arfau. Agorwyd hwy gan ei gyd-chwaraewr Rhys Gabe.

Cyfeiriadau

golygu
  • David Parry-Jones (1999) Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the first golden age of Welsh rugby (Seren, 1999)
  • David Smith a Gareth Williams, Fields of praise: the official history of the Welsh Rugby Union 1881-1981 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)