Rhys Gabe
Chwaraewr Rygbi'r undeb o Gymru oedd Rhys Thomas Gabe (22 Mehefin 1880 – 15 Medi 1967). Enillodd 24 o gapiau i Cymru, yn bennaf fel canolwr.
Rhys Gabe | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mehefin 1880 Cymru, Llangennech |
Bu farw | 15 Medi 1967 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Gabe yn Llangennech, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Lanelli yn ddwy ar bymtheg oed. Yn 1901 symudodd i Lundain i astudio yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road ac ymunodd â chlwb rygbi Cymry Llundain, lle dechreuodd chwarae fel canolwr. Wedi gadael y coleg aeth yn athro mathemateg i Gaerdydd ac ymunodd â Chlwb Rygbi Caerdydd. Ffurfiai ef a'r canolwr arall Gwyn Nicholls gyfuniad nodedig iawn i'r clwb ac i Gymru. Bu'n gapten Caerdydd yn y tymor 1907-08 a sgoriodd 51 cais i'r clwb mewn 115 o gemau.
Enillodd Gabe ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1901 fel asgellwr chwith. Roedd ei 24 gêm dros Gymru yn cynnwys y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905, ac yr oedd yn gapten Cymru yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 1907. Bu ar daith i Awstralasia gyda'r Llewod Prydeinig yn 1904.
Ei gais rhyfeddaf mae'n debyg oedd un a sgoriodd yn erbyn Lloegr ym Mryste yn 1908. Chwaraewyd y gêm mewn niwl tew, a chafodd Gabe a Percy Bush hyd i'r bêl tu allan i linell 25 Lloegr heb i unrhyw un o chwaraewyr Lloegr sylweddoli hynny. Gafaelodd Gabe yn y bêl ac aeth i gyfeiriad y llinell tra rhedai Bush i'r cyfeiriad arall i ddrysu chwaraewyr Lloegr ymhellach. Ymhen tipyn cyrhaeddodd y dyfarnwr a'r chwaraewyr eraill at y llinell i ddarganfod Gabe yn eu haros gyda'r bêl.
Ymddeolodd Gabe o rygbi yn 1908, ond parhaodd i chwarae ambell gêm i Gaerdydd. Bu farw yng Nghaerdydd yn 1967.
Cyfeiriadau
golygu- Gareth Hughes, One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli, 1983)