Gwyn coed Real
Leptidea reali | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Pieridae |
Genws: | Leptidea |
Rhywogaeth: | L. reali |
Enw deuenwol | |
Leptidea reali Reissinger 1989[1] |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn coed Real, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion coed Real; yr enw Saesneg yw Real's wood white, a'r enw gwyddonol yw Leptidea reali.[2][3]
Gellir ei ganfod yn y rhan fwyaf o wledydd Gorllewin Ewrop, ond nid yw wedi ei weld yng ngwledydd Prydain hyd yma.[4] Mae i'w gael yn Iwerddon ers 2001.
Mae'n hoff o gaeau ac ymylon coedwigoedd hyd at 2,500 metr yn uwch na lefel y môr. Mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Ebrill a Hydref a hynny mewn dwy neu dair cenhedlaeth. Prif fwyd y siani flewog ydy teulu o blanhigion o'r enw Fabaceae.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn coed Real yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Reissinger (E.), 1989. Checkliste Pieride Duponchel, 1835 der Westpalaearctis, Atalanta, 20, pp. 149-185
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ "Real's Wood White". Butterfly Conservation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 22 Mehefin 2010.