Baner Libia
Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch coch, stribed is gwyrdd, a stribed canol du gyda seren a chilgant gwyn yn ei ganol yw baner Libia.
Math o gyfrwng | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyrdd, coch, du, gwyn |
Dechrau/Sefydlu | 24 Rhagfyr 1951 |
Genre | horizontal triband, Pan-Arab colors flag, Pan-African flag |
Rhagflaenydd | flag of Libya (1977–2011) |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod yr oes drefedigaethol, nid oedd gan Libia faner ei hun. Adeg uno'r tair talaith Cyrenaica, Tripolitania a Fezzan dan y Brenin Idris ym 1947, defnyddiwyd baner Cyrenaica yn faner Teyrnas Unedig Libia. Maes du gyda seren a chilgant gwyn oedd y faner honno, ac ym 1949 ychwanegwyd stribedi gwyrdd a choch i gynrychioli'r ddwy dalaith arall, Tripolitania a Fezzan. Ni newidiodd y faner pan enillodd Libia ei hannibyniaeth ym 1951. Yn sgil coup d'état gan Muammar al-Gaddafi ym 1969, mabwysiadwyd y lliwiau pan-Arabaidd, coch, gwyn a du, i efelychu baner Chwyldro'r Aifft (1952). Ar ôl i Anwar Sadat, Arlywydd yr Aifft, ymgymodi ag Israel, cyflwynodd Gaddafi faner o faes gwyrdd, lliw Islam, yn Nhachwedd 1977 i symboleiddio ei Chwyldro Gwyrdd. Am nifer o flynyddoedd, hon oedd yr unig faner genedlaethol o un lliw plaen. Yn sgil Chwyldro Libia a dymchwel Gaddafi, adferwyd baner 1949 yn faner genedlaethol Libia ar 3 Awst 2011.[1]
Baner unlliw
golyguMae Baner Libia a elwyd yn faner Libia Arabaidd Jamahiriya yn enwog am fod yn faner ag iddi ddim ond maes werdd heb ddim lliw na motiff arall arni. Mabwysiadwyd y faner ar 19 Tachwedd 1977 ac roedd yn cynnwys maes gwyrdd. Hon oedd yr unig faner genedlaethol yn y byd gydag un lliw yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.[2] Fe'i dewiswyd gan arweinydd Libya Muammar Gaddafi i symboleiddio ei athroniaeth wleidyddol (ar ôl ei Lyfr Gwyrdd).[3] Mae'r lliw gwyrdd yn draddodiadol yn symbol o Islam, gan adlewyrchu baneri gwyrdd hanesyddol y Caliphate Fatimid. Yn Libya, roedd gwyrdd hefyd yn lliw a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gynrychioli rhanbarth Tripolitania. Mae'r faner hon yn parhau i gael ei defnyddio gan deyrngarwyr Gaddafi. Roedd gan y faner ddwy fersiwn, un â chymhareb eang ac un arall â chymhareb lai.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) flag of Libya. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2017.
- ↑ "Libya Flag". Cyrchwyd 12 December 2009.
- ↑ "Staff of Libyan consulate in Egypt lower flag". Reuters. 22 February 2011.