Pianydd clasurol o Ffrainc yw Hélène Grimaud (ganwyd 7 Tachwedd 1969) sydd hefyd yn awdur. Sefydlodd Ganolfan Gadwraeth y Blaidd yn Ne Salem, Efrog Newydd, gyda'i phartner, y ffotograffyd J. Henry Fair.[1][2][3]

Hélène Grimaud
Ganwyd7 Tachwedd 1969 Edit this on Wikidata
Aix-en-Provence Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon, Erato Records, Teldec Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
Galwedigaethpianydd, cerddor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Gwobr Steiger, Chevalier de la Légion d'Honneur, ‎chevalier des Arts et des Lettres, Officier des Arts et des Lettres‎, Echo Klassik Award - Instrumentalist of the Year, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.helenegrimaud.com/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Aix-en-Provence, Ffrainc ar 7 Tachwedd 1969. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cerdd a Dawns Cenedlaethol, Conservatoire de Paris a Phrifysgol Rhanbarthol de Marseille.[4][5][6][7]

Magwraeth golygu

Disgrifiodd genhedligrwydd ei theulu mewn cyfweliad â New Rock Times gyda John Rockwell: "Daeth fy nhad o gefndir Iddewon Sephardig yn Affrica, ac roedd cyndeidiau fy mam yn Berberiaid Iddewig o Corsica." Mabwysiadwyd ei thad fel plentyn gan deulu Ffrengig a daeth yn diwtor prifysgol yn dysgu ieithoedd.[8][9]

Mae hi wedi dweud ei bod yn aml yn “gynhyrfus”, pan oedd yn blentyn. Darganfu'r piano pan oedd yn saith oed. Ym 1982, fe'i derbyniwyd i'r Conservatoire de Paris, lle bu'n astudio gyda Jacques Rouvier.

Gyrfa golygu

Yn 1987, lansiodd ei gyrfa broffesiynol gyda datganiad unigol ym Mharis a pherfformiad gyda'r Orchestre de Paris dan arweinyddiaeth Daniel Barenboim. Perfformiodd dro ar ôl tro yn Proms y BBC, gan gynnwys 'Noson Ola'r Proms' ym Medi 2008, gan chwarae y Choral Fantasia gan Beethoven ar y piano.[10]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Gwobr Steiger, Chevalier de la Légion d'Honneur, ‎chevalier des Arts et des Lettres, Officier des Arts et des Lettres‎, Echo Klassik Award - Instrumentalist of the Year (2005), Commandeur des Arts et des Lettres‎ (2022) .

Cyfeiriadau golygu

  1. James R. Oestreich, "A Pianist Harmonizes With Wolves". The New York Times, 5 Tachwedd 2006.
  2. "History". Nywolf.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-14. Cyrchwyd 2019-06-30.
  3. Rockwell, John (29 Mai 1994). "Sacre Bleu! Don't Call Her French, Or Even Female". The New York Times. Cyrchwyd 31 Hydref 2011.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb139534349. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb139534349. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Hélène Grimaud". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hélène Rose Paule Grimaud". "Hélène Grimaud". "Helene Grimaud". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Man geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. https://www.francemusique.fr/personne/helene-grimaud. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2020.
  8. Hélène Grimaud Biography - Discography, Music, Lyrics, Album, CD, Career, Famous Works, and Awards
  9. Interview with Pianist Hélène Grimaud French pianist saved by music - and wolves gan Peter Culshaw, The Telegraph, 11 Tachwedd 2002
  10. "Performances of Hélène Grimaud at BBC Proms". bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.