H. F. M. Prescott

Awdures o Loegr oedd H. F. M. Prescott (ganwyd 22 Chwefror 1896) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd ac yn academydd. Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, Lloegr.

H. F. M. Prescott
Ganwyd22 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Bu farw1972 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Royal Holloway, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa James Tait Black, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg

golygu

Ganed Hilda Frances Margaret Prescott yn Swydd Gaer ar 22 Chwefror 1896, yn ferch i'r Parchedig James Mulleneux Prescott a'i wraig Margaret (née Warburton). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol uwchradd Wallasey, ac oddi yno aeth i Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen lle derbyniodd radd meistr, ac yna i Brifysgol Manceinion lle cafodd ail radd Meistr mewn hanes yr oesoedd canol. yn Durham, gwnaeth ei doethuriaeth (D.Litt) ac yn 1958 fe'i hetholwyd yn Gymrawd Ymchwil yng ngholeg Holloway Brnhinol, rhan o Brifysgol Llundain (UCL), lle gweithiodd gyda Thomas Wolsey.[1][2]

Mae'n adnabyddus am ei nofel hanesyddol The Man on a Donkey. Wedi'i ysgrifennu ar ffurf cronicl, mae'r llyfr yn adrodd hanes 'Pererindod Grace', sef chwyldro poblogaidd mewn a oedd yn brotest yn erbyn diddymiad y mynachlogydd gan Harri VIII, brenin Lloegr. Mae'r llyfr yn dal i fod mewn print, cyhoeddwyd yr argraffiad diweddaraf ym mis Rhagfyr 2016 gan Apollo, Llundain, ISBN 9781784977719.

Dywedir fod ei bywgraffiad o Mari I, brenhines Lloegr (enw gwreiddiol: Spanish Tudor) yn parhau i fod yn un o'r gweithiau pwysicaf ar Mari, yn ôl y Encyclopædia Britannica. Enillodd wodr James Tait Black am y gyfrol hon yn 1941.

Roedd Prescott yn gefnogwr cynnar o Amnest Rhyngwladol, y sefydliad hawliau dynol, ac o Gymdeithas y Defnyddwyr (Which?). roedd hefyd yn aelod brwd o'r Undeb Saesneg eu Hiaith (English-Speaking Union). Roedd hi'n fenyw o chwaeth syml, ac yn byw am flynyddoedd lawer yn dawel gyda'i chŵn yn nhref fechan Charlbury. Bu farw ym 1972.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goffa James Tait Black (1940), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol .


Gweithiau

golygu
  • The Unhurrying Chase (1925). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • The Lost Fight (1928). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • Son of Dust (1932). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • Dead and Not Buried (1938)
  • Spanish Tudor (1940). Cyhoeddwyd gan Constable & Co
  • The Man on a Donkey (1952). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode
  • Jerusalem Journey (1954). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode
  • Once to Sinai: The further pilgrimage of Friar Felix Fabri (1957). Cyhoeddwyd gan Eyre & Spottiswoode

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Hilda Frances Margaret Prescott". ffeil awdurdod y BnF.
  2. Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "H. F. M. Prescott". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilda Frances Margaret Prescott". ffeil awdurdod y BnF. "Hilda Frances Margaret Prescott".