Huw Evans
Cerddor a chyflwynydd teledu a radio Cymraeg ydy Huw Evans (ganwyd 15 Mawrth 1985) sy'n perfformio dan yr enw H. Hawkline.[1] Mae'n fab i'r cyflwynydd teledu Hywel Gwynfryn.
Huw Evans | |
---|---|
Ffugenw | H. Hawkline |
Ganwyd | 15 Mawrth 1985 Caerdydd |
Label recordio | Heavenly Recordings |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, canwr-gyfansoddwr, dylunydd graffig, cyflwynydd radio, offerynnau amrywiol |
Adnabyddus am | In the Pink of Condition |
Arddull | indie folk, roc poblogaidd |
Tad | Hywel Gwynfryn |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Daeth i'r amlwg yn 2001 fel aelod o'r band Mwsog a ffurfwyd tra oedd yn mynychu Ysgol Glan Clwyd. Roedd yn cyflwyno rhaglenni gwestai C2 ar BBC Radio Cymru ac i dot dot[2]. Roedd yn un o brif gyflwynwyr y gyfres gerddoriaeth Bandit ar S4C gyda Huw Stephens. Bu hefyd yn actio rhan Skid ar raglen Xtra ar S4C.[3]
Cerddoriaeth
golyguMae wedi chwarae gyda cherddorion megis Cate Le Bon a Sweet Baboo. Yn 2010, dechreuodd chwarae ei gerddoriaeth ei hun dan yr enw H. Hawkline, gan chwarae mewn nifer o wyliau gan gynnwys Green Man a Sŵn. Mae hefyd wedi dylunio gwaith celf ei record ei hun yn ogystal â Me Oh My ar gyfer Cate Le Bon. Cymerodd yr enw H. Hawkline o'i hoff lyfr, The Hawkline Monster gan yr awdur Americanaidd Richard Brautigan.[4]
Disgyddiaeth
golygu- A Cup of Salt, 6 Rhagfyr 2010 (Shape Records)
- The Strange Uses Of Ox Gall, 5 Medi 2011 (Shape Records)
- Black Domino Box EP, Awst 2012 (Shape Records)
- Ghouls EP, 17 Mehefin 2013 (Turnstile)
- In the Pink of Condition, 2 Chwefror 2015 (Heavenly)
- I Romanticize, 2 Mehefin 2017 (Heavenly)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ TV presenter Huw Evans forges musical career as alter-ego H Hawkline (en) , WalesOnline, 20 Ionawr 2011. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.
- ↑ maes-e - I dot. maes-e (9 Ionawr 2004). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
- ↑ Cyfweliad gyda Huw Evans ar wefan C2 1 Ebrill 2004
- ↑ TV presenter Huw Evans forges musical career as alter-ego H Hawkline (20 Ionawr 2011). Adalwyd ar 2 Medi 2011.