HMY Britannia
Cwch Hwylio Ei Mawrhydi (HMY) Britannia, a elwir hefyd yn y Royal Yacht Britannia, yw cyn cwch hwylio'r Frenhines Elizabeth II. Roedd mewn gwasanaeth rhwng 1954 a 1997. Hi oedd yr 83fed llong o'r fath ers i'r Brenin Siarl II esgyn i'r orsedd ym 1660, a hi yw'r ail gwch hwylio brenhinol i berchen a'r enw hwn: y cyntaf oedd y cwch rasio a adeiladwyd ar gyfer Tywysog Cymru ym 1893. Yn ystod ei gyrfa 43 mlynedd, teithiodd y cwch hwylio mwy na miliwn o filltiroedd môr o amgylch y byd. Bellach mae wedi ymddeol o wasanaeth brenhinol, ac mae'r Britannia wedi'i angori'n barhaol yn Ocean Terminal, Leith yng Nghaeredin, yr Alban. Mae'n atyniad poblogaidd i ymwelwyr gyda dros 300,000 o ymweliadau bob blwyddyn.[2]
Gyrfa (Y Deyrnas Unedig) | |
---|---|
Enw: | HMY Britannia |
Perchennog: | The Royal Yacht Britannia Trust[1] |
Archebwyd: | 5 Chwefror 1952 |
Adeiladwyd: | |
Rhif yr iard: | 691 |
Cychwyn adeiladu: | 16 Mehefin 1952 |
Lansiwyd: | 16 Ebrill 1953 |
Comisiynwyd: | 11 Ionawr 1954 |
Dadgomisiynwyd: | 11 Rhagfyr 1997 |
Statws: | Llong amgueddfa ar agor i'r cyhoedd |
Nodweddion cyffredinol | |
Hyd: | 412 tr (126 m) |
Trawst: | 55 tr (17 m) |
Uchder: | 123 tr (37 m) i copa'r prif hwylbren |
Draught: | 15 tr (4.6 m) |
Ymwthiant: | 2 tyrbin stêm Pametrada, 12,000 hp (8,900 kW) |
Cyflymder: | 21.5 knot (39.8 km/h; 24.7 mph) |
Pellter: | 2,400 nautical mile (4,400 km) |
Niferoedd (pobl): | 250 o westai |
Milwyr: | 1 platŵn o Môr-filwyr Brenhinol |
Y Criw: |
|
Adeiladu
golyguAdeiladwyd yr HMY Britannia yn iard longau John Brown & Co. Ltd yn Clydebank, Gorllewin Dunbartonshire. Fe’i lansiwyd gan y Frenhines Elizabeth II ar 16 Ebrill 1953, a’i chomisiynu ar 11 Ionawr 1954. Dyluniwyd y llong gyda thri hwylbren: yr hwylbren blaen 133ft (41m), y prif hwylbren 139ft (42m), a thrydydd hwylbren 118ft (36m). Mae'r erial uchaf ar yr hwylbren blaen, ac 20ft (6.1m) uchaf y prif hwylbren, yn golfachog er mwyn caniatáu i'r llong basio o dan bontydd.
Dyluniwyd Britannia i gael ei droi'n llong ysbyty yn ystod rhyfeloedd,[3] er na ddefnyddiwyd hwn erioed. Pe bai rhyfel niwclear, y bwriad oedd i'r Frenhines a Dug Caeredin ymochel ar y Britannia oddi ar arfordir gogledd-orllewin yr Alban.[4]
Criw
golyguRoedd criw'r Iotwyr Brenhinol yn wirfoddolwyr o'r Llynges Frenhinol. Penodwyd swyddogion am hyd at ddwy flynedd, tra bod y "iotwyr" yn wirfoddolwyr, ac ar ôl wasanaethu am 365 diwrnod gellid eu derbyn i'r "Gwasanaeth Parhaol y Cwch Hwylio Brenhinol" fel Iotwyr Brenhinol, yn gweithio yna nes iddynt ddewis gadael neu gael eu diswyddo am resymau meddygol neu ddisgyblaeth. O ganlyniad, gwasanaethodd rhai am 20 mlynedd neu fwy. Roedd y llong hefyd yn cario llu o Fôr-filwyr Brenhinol pan oedd aelodau o'r Teulu Brenhinol ar y llong.
Hanes
golyguHwyliodd Britannia ar ei mordaith gyntaf o Portsmouth i Grand Harbour, Malta, ar 14 Ebrill 1954, yn cyrraedd ar 22 Ebrill 1954. Cariodd y Dywysoges Anne a’r Tywysog Charles i Falta er mwyn iddynt gwrdd â’r Frenhines a Dug Caeredin yn Tobruk ar ddiwedd eu Taith Gymanwlad. Taith gyntaf y Frenhines a Dug Caeredin ar Britannia oedd o Tobruk ar 1 Mai 1954.[5]
Ar 20 Gorffennaf 1959, hwyliodd Britannia y Forffordd Saint Lawrence, a oedd newydd ei agor, ar ei ffordd i Chicago. Pan ddociodd daeth y Frenhines y frenhines gyntaf o Ganada i ymweld â'r ddinas. Roedd Arlywydd yr UD Dwight D. Eisenhower ar fwrdd y Britannia am ran o'r fordaith hon. Croesawyd yr arlywyddion Gerald Ford, Ronald Reagan a Bill Clinton i'r llong yn flynyddoedd diweddarach. Aeth Charles a Diana, Tywysog a Thywysoges Cymru, ar eu mordaith mis mêl ar y Britannia ym 1981. Fe symudodd y llong dros 1,000 o ffoaduriaid o'r rhyfel cartref yn Aden ym 1986.[6] Hwyliodd y llong i Ganada ym 1991 yn galw yn Toronto a Kingston, Ontario.
Pan oedd HMY Britannia ar ddyletswyddau brenhinol, cafwyd ei hebrwng gan long ryfel y Llynges Frenhinol. Roedd y cwch hwylio yn ymweld ag Wythnos Cowes yn rheolaidd ar ddechrau mis Awst, ac fel arfer am weddill y mis roedd yn gartref i'r Frenhines a'i theulu ar gyfer mordaith flynyddol o amgylch yr ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban (a elwir yn "Taith yr Ynysoedd Gorllewinol").
Yn ystod ei gyrfa fel Cwch Hwylio Brenhinol fe wnaeth Britannia cario’r Frenhines, aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol, ac amryw bwysigion ar 696 o ymweliadau tramor a 272 o ymweliadau yn nyfroedd Prydain. Yn yr amser hwn, teithiodd Britannia 1,087,623 milltir fôr (2,014,278km).[7]
Ym 1997, ymrwymodd y llywodraeth Geidwadol i ddisodli'r Britannia pe bai'n cael ei hailethol, tra gwrthododd y Blaid Lafur ddatgelu ei chynlluniau ar gyfer y llong. Ar ôl i Lafur ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Mai 1997, cyhoeddodd y byddai'r llong yn ymddeol ac na fydd unrhyw un arall yn cael ei adeiladu. Roedd y llywodraeth flaenorol wedi dadlau y cyfiawnheir y gost am ei rôl mewn polisi tramor a hyrwyddo buddiannau Prydain dramor, yn enwedig trwy gynadleddau a gynhaliwyd gan 'British Invisibles', corff gwasanaethau ariannol rhyngwladol.
Amcangyfrifodd y Bwrdd Masnach Dramor fod digwyddiadau a gynhaliwyd ar y Britannia wedi helpu i godi £3 biliwn ar gyfer y trysorlys rhwng 1991 a 1995 yn unig.[8] Dywedodd y llywodraeth newydd na ellid cyfiawnhau'r gwariant o ystyried pwysau eraill ar y gyllideb amddiffyn, y gyllideb y byddai'r llong newydd wedi'i hariannu a'i chynnal ohoni.
Cenhadaeth dramor olaf y Britannia oedd cario llywodraethwr olaf Hong Cong, Chris Patten, a'r Tywysog Cymru yn ôl o Hong Cong ar ôl ei drosglwyddo i Weriniaeth Pobl Tsieina ar 1 Gorffennaf 1997. Datgomisiynwyd Britannia ar 11 Rhagfyr 1997. Adroddir bod y Frenhines, fel rheol yn stoicaidd, wedi llefain yn ystod y seremoni ddigomisiynu a fynychwyd gan y mwyafrif o aelodau hŷn y Teulu Brenhinol.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Royal Yacht Britannia – The Trust". Cyrchwyd 7 March 2014.
- ↑ http://www.royalyachtbritannia.co.uk
- ↑ "1953: Queen launches Royal Yacht Britannia". On This Day. BBC. 16 April 1953. Cyrchwyd 17 August 2011.
- ↑ Simon Jonhson (12 July 2010). "Floating bunker plan to help Queen escape nuclear attack". The Telegraph.
- ↑ Richard Johnstone-Bryden (2003). The Royal Yacht Britannia: The Official History. Conway Maritime. tt. 30–33. ISBN 978-0-85177-937-9.
- ↑ Aden: British Evacuation Archifwyd 2021-06-01 yn y Peiriant Wayback Hansard HL Deb 21 January 1986 vol 470 cc131-4.
- ↑ Johnstone-Bryden, p. 298.
- ↑ "Great British Ambassador". The Royal Yacht Britannia Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-06. Cyrchwyd 23 January 2016.
- ↑ "Pay for your own yacht, PM tells Queen". The Age. 17 January 2012. Cyrchwyd 17 January 2012.