Hafwy

pentref ym Mhowys

Pentrefan yng nghymuned Diserth a Threcoed, Powys, yw Hafwy, Hawy[1] neu Howi (Saesneg: Howey).[2]Saif dwy filltir i'r de o Landrindod. Ceir yma neuadd bentref sy'n dal tua chant o bobl ac sy'n ganolfan i weithgareddau'r gymuned - swyddfa bost a thafarn The Laughing Dog.[3]

Hafwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.21758°N 3.388251°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Ceir cofnod o'r enw 'Hawey' yn 1818 a fferm gyfagos o'r enw 'Blaenhavoe' yn 1297; ymddengys fod y gair yn tarddu o enw afon a sychai'n yr haf. Trodd yr 'a' yn yr enw yn 'o' rhwng 1818 ac 'Howey' yn 1891.[4]

Roedd yma ysgol gynradd yn 2007 pan gatunodd Cyngor Sir Powys i'w chau; ar yr adeg honno roedd yma 29 o blant.[5]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[6] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[7]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Tachwedd 2021
  3. Gwefan www.howey-village-hall.org.uk; Archifwyd 2015-05-14 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Ionawr 2015
  4. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007): 'Summer stream', haf, suff. - wy. 'Hawey' 1818, 'Howey' 1891. A relatively modern village named after the river Hawy or Howey which rise near a former farm Blaenhawy (Blaenhavoe 1297, blaen). The obvious implication is of a river which was sometimes dry in summer but two water mills are recorded in historic sources.'
  5. Papur newydd y Daily Post; adalwyd 9 Ionawr 2015
  6. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  7. Gwefan Senedd y DU