Haganah (Hebraeg: הַהֲגָנָה ha-Haganah, yn llyth. 'Yr Amddiffyniad' ) oedd y prif fudiad parafilwrol Seionaidd a weithredai dros yr Yishuv ym Mhalestina dan Fandad.[1] Fe'i sefydlwyd ym 1920 i amddiffyn presenoldeb yr Yishuv ym Mhalestina, ac fe'i diddymwyd yn ffurfiol ym 1948, pan ddaeth yn rhan greiddiol o Lluoedd Amddiffyn Israel wedi i Israel ddatgan annibyniaeth.

Haganah
Enghraifft o'r canlynolsefydliad parafilwrol Edit this on Wikidata
IdiolegSeioniaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Label brodorolהֲגָנָה Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
LleoliadPalesteina dan Fandad Edit this on Wikidata
OlynyddLlu Amddiffyn Israel Edit this on Wikidata
Enw brodorolהֲגָנָה Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://irgon-haagana.co.il Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd yr Haganah ei ffurfio o milisia oedd eisoes yn bodoli. Ei ddiben gwreiddiol oedd amddiffyn y gwladychfeydd Iddewig rhag gwrthsafiad y Palestiniaid Arabaidd brodorol. Dyma a ddigwyddodd yn ystod terfysgoedd Nebi Musa 1920, terfysgoedd Jaffa 1921, terfysgoedd Palestina 1929, terfysgoedd Jaffa 1936, a'r gwrthryfel Arabaidd 1936-1939 ym Mhalestina, ymhlith digwyddiadau eraill. Roedd y llu para-filwrol dan reolaeth yr Asiantaeth Iddewig, y corff llywodraethol swyddogol a oedd yn gyfrifol am gymuned Iddewig Palestina yn ystod cyfnod y Mandad Brydeinig. Hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ystyriwyd gweithgareddau'r Haganah gan rai yn gymedrol, ac yn unol â pholisi strategol havlagah ('hunanreolaeth'). Dyna a achosodd i'r lluoedd para-filwrol mwy radicalaidd, fel Irgun a Lehi, ymddatgysylltu oddi wrtho. Cafodd milwriaethwyr yr Haganah gefnogaeth filwrol ddirgel o Wlad Pwyl a cheisiasant gael cydweithrediad y Deyrnas Unedig pe bai yr Echel yn ymosod ar Balesteina trwy Ogledd Affrica. Dyma oedd y sbardun i greu’r Palmach, eu llu ymladd elitaidd, yn 1941.[2]

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, gwrthododd y Prydeinwyr godi'r cyfyngiadau ar fewnfudo Iddewig yr oeddent wedi'u gosod o ganlyniad i Bapur Gwyn 1939. Parodd hyn i'r Haganah arwain gwrthryfel yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig ym Mhalestina; roedd yr ymgyrch yn cynnwys bomio pontydd, rheilffyrdd, a llongau a ddefnyddiwyd i alltudio mewnfudwyr Iddewig anghyfreithlon ('Alyah Bet'), yn ogystal â chynorthwyo i ddod â mwy o Iddewon ar wasgar i Balestina yn groes i bolisïau Prydain. Ar ôl mabwysiadu Cynllun Rhannu Palestina'r Cenhedloedd Unedig yn 1947, daeth yr Haganah i'r amlwg fel y llu arfog mwyaf ymhlith Iddewon Palestina, gan faeddu'r milisias Arabaidd yn llwyddiannus yn ystod Rhyfel Cartref Palestina. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r Haganah yn gyfrifol am weithredu Cynllun Dalet a chwarae rhan fawr yn y gwaith o garthu Palestina o'i thrigolion Palesteinaidd.[3] Yn fuan ar ôl dechrau Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, unwyd yr Haganah â'r grwpiau parafilwrol eraill a'u had-drefnu'n fyddin swyddogol Gwladwriaeth Israel.

Cyfrol Gymraeg

golygu

Bu'r awdur Judith Maro yn aelod o'r Haganah ers iddi fod y ferch ifanc yn Haifa. Cyhoeddodd gyfrol o atgofion o'i chyfnod yn yr Haganah ym 1972 o dan y teitl Atgofion Haganah.[4] Yn Saesneg ysgrifennodd hi'r gyfrol yn wreiddiol, a William Williams a gyfieithodd hi i'r Gymraeg. Dim ond yn Gymraeg mae'r gyfrol ar gael.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Washington Robnett, George (1976).
  2. "Haganah". Encyclopedia Britannica. 28 Medi 2024. Cyrchwyd 28 Medi 2024.
  3. Pappe, Ilan (2006). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. tt. 55–56. ISBN 978-1-85168-555-4.
  4. Maro, Judith (1872). Atgofion Haganah. Lerpwl: Gwasg y Brython.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.