Ymgyrch Gogledd Affrica
Rhan o'r Ail Ryfel Byd oedd Ymgyrch Gogledd Affrica a ddigwydd yng Ngogledd Affrica o 10 Mehefin 1940 hyd 13 Mai 1943. Roedd yn cynnwys brwydrau yn anialwch Libia, anialwch yr Aifft, Moroco ac Algeria, a Thiwnisia.
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch filwrol |
---|---|
Rhan o | Mediterranean and Middle East Theater of World War II |
Dechreuwyd | 10 Mehefin 1940 |
Daeth i ben | 16 Mai 1943 |
Lleoliad | Italian Libya, Brenhiniaeth yr Aifft, Algeria Ffrengig, French protectorate of Tunisia, Protectoriaeth Ffrengig ym Moroco |
Yn cynnwys | Western Desert campaign |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 13 Medi 1940, ymosododd mwy na 200,000 o filwyr yr Eidal ar yr Aifft, gyda'r bwriad o gael rheolaeth tros Gamlas Suez a meysydd olew'r Dwyrain Canol. Gorchfygwyd hwy mewn nifer o frwydrau gan y fyddin Brydeinig, a bu raid i Mussolini alw ar Hitler am gymorth. Gyrrwyd yr Afrikakorps i Ogledd Affrica, a than Erwin Rommel gyrrodd y Prydeinwyr yn ôl am gyfnod. Ni allai'r Almaen ei atgyfnerthu, fodd bynnag, ac roedd yn brin o olew. Yn 1942, gorchfygwyd yr Afrikakorps gan y Prydeinwyr dan Bernard Montgomery ym mrwydr El Alamein. Glaniodd yr Americanwyr yn Algeria a Moroco, ac yn raddol gyrrwyd yr Almaenwyr o Ogledd Affrica. Ym mis Mai 1943, ildiodd yr Almaenwyr ac Eidalwyr olaf yn Tiwnisia. Gwnaeth hyn ymosodiad ar yr Eidal yn bosibl.