Pêl-droediwr yw Thomas Henry Alex "Hal" Robson-Kanu (ganwyd 21 Mai 1989). Mae'n chwarae fel asgellwr i Reading ac i Gymru.

Hal Robson-Kanu

Robson-Kanu yn chwarae i Reading yn 2013
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnThomas Henry Alex Robson-Kanu[1]
Dyddiad geni (1989-05-21) 21 Mai 1989 (34 oed)
Man geniActon, Llundain, Lloegr
Taldra6 tr 0 mod (1.83 m)[2]
SafleAsgellwr
Y Clwb
Clwb presennolWest Bromwich
Rhif4
Gyrfa Ieuenctid
1999–2004Arsenal
2004–2007Reading
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2007–Reading198(24)
2008Southend United (benthyg)8(3)
2008Southend United (benthyg)14(2)
2009Swindon Town (benthyg)20(4)
2016West Bromwich0(0)
Tîm Cenedlaethol
2007–2008Lloegr dan 192(0)
2009Lloegr dan 201(0)
2010Cymru dan 214(2)
2010–2017Cymru32(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 10 Mai 2016.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 25 Mehefin 2016

Dechreuodd ei yrfa amatur pan oedd yn ddisgybl ysgol yn chwarae i Arsenal ond yn 15 oed symudodd at Reading. Wedi iddo raddio o'u hacademi yn 2007 treuliodd gyfnod ar fenthyciad i Southend United ac yna Swindon Town cyn dychwelyd i Reading. Cafodd ei gêm gyntaf yn 2009. Ar y fainc y treuliodd llawer o'i dymor cyntaf yn y Bencampwriaeth ond cyrhaeddodd ei anterth yn 2011–12 pan ddaeth ei glwb yn fuddugol. Chwaraeodd yn yr Uwchgynghrair yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi chwarae dros gant o gemau i'w glwb.

Cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed ryngwladol ar 29 Awst 2018.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "List of Players under Written Contract Registered Between 01/07/2011 and 31/07/2011" (PDF). The Football Association. Cyrchwyd 7 Chwefror 2012.
  2. "Player profile". Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-05. Cyrchwyd 6 Mai 2013.
  3. ‘Byw’r breuddwyd’ – neges Hal Robson-Kanu i’r genedl , Golwg360, 29 Awst 2018. Cyrchwyd ar 30 Awst 2018.