Halothan
Mae halothan, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Fluothane ymysg eraill, yn anesthetig cyffredinol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂HBrClF₃.
Math o gyfrwng | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 195.890224 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂hbrclf₃ |
Enw WHO | Halothane |
Clefydau i'w trin | Status asthmaticus, asthma |
Yn cynnwys | fflworin, carbon, bromin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Sgil effeithiau
golyguMae sgil effeithiau'n cynnwys curiad calon afreolaidd, lleihad yn yr ymdrech i anadlu (iselder resbiradol), a phroblemau'r afu[2] . Ni ddylid ei ddefnyddio mewn pobl â phorffyria na'r sawl sydd â hanes (neu hanes teuluol) o hyperthermia. Nid yw'n glir a yw defnyddio yn ystod beichiogrwydd yn niweidiol i'r plentyn, ac nid yw fel arfer yn cael ei argymell i'w ddefnyddio yn ystod toriad Cesaraidd.
Hanes
golyguDarganfuwyd halothan ym 1955. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]. Mae ei ddefnydd mewn gwledydd datblygedig wedi cael ei ddisodli gan asiantau newydd fel sevoflurane[4].
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur yw Halothan, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Halothan". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ FLUOTHANE adalwyd 8 Mawrth 2018
- ↑ "WHO Model List of Essential Medicines" (PDF). World Health Organization. October 2013. Cyrchwyd 22 April 2014.
- ↑ Pharmacology of Inhaled Anesthetics; Andrew E. Hudson ac eraill yn Pharmacology and Physiology for Anesthesia, 2013
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |