Hanes yn y Tir
Mae Hanes yn y Tir yn lyfr ar hanes Cymru gan yr hanesydd Cymreig Elin Jones.
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Awdur | Elin M. Jones |
Dyddiad cyhoeddi | 2021 |
Mae'r llyfr wedi'i anelu at blant ac fe'i defnyddir ym mhob ysgol yng Nghymru i gynorthwyo addysgu hanes Cymru ac fe'i darperir yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ynghylch
golyguLansiwyd y llyfr ar 29 Medi 2021. Mae'r llyfr yn daith weledol o'r 5,000 o flynyddoedd olaf o hanes Cymru ac yn cynnwys cyfeiriadau at y bobl gyntaf i fyw yng Nghymru, pwysigrwydd Owain Glyndŵr, rôl Cymru yn y fasnach gaethweision a dylanwad y môr. Mae clawr y llyfr yn dangos Wal Goch Cymru gan gynnwys cyfeiriadau at ardaloedd lleol ac ymgyrchoedd gan gynnwys LHDT+ a Bywyd Du o bwys. Yn ôl cyhoeddwr y gyfrol, Gwasg Carreg Gwalch, mae’n “lyfr cynhwysfawr, hanfodol o hanes Cymru, o’r Cromlechi i’r Senedd” ac yn addas ar gyfer plant 8 i 12 oed. Ychwanegodd y cyhoeddwr, fod y llyfr fod “cynrychioli hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth gyfoethog yn ganolog i’r gwaith”. “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi ennill gwerthfawrogiad newydd o bwysigrwydd dysgu hanes cymunedau ymylol, yn ogystal â gwerthfawrogiad o addysg fel arf i frwydro yn erbyn hiliaeth a phob math arall o ragfarn,” medden nhw. “Dyma’r llyfr hanes Cymreig mwyaf cynhwysfawr, lliwgar ac uchelgeisiol i blant. Mae'n newidiwr gêm.” [1]
Dywed y newyddiadurwr Ifan Morgan Jones fod y gyfrol "bob amser yn ddifyr a byth yn sych." Mae llais unigryw'r awdur yn egluro'n glir nad yw'r rhai sy'n byw'n heddychlon yn aml yn cael eu cofio i'r un graddau ag eraill, ac y gall ffynonellau cynradd hyd yn oed barhau â safbwyntiau gogwyddog. Mae’r gyfrol hefyd yn cydnabod bod hanes yn aml yn cael ei ysgrifennu gan ddynion cyfoethog breintiedig, ac felly mae Elin Jones yn cyflwyno naratifau merched yn y llyfr. Mae Ifan Morgan Jones yn awgrymu y gallai’r llyfr gael ei ddefnyddio fel cymorth dysgu ar gyfer cwricwlwm hanes Cymru newydd 2022/2023 mewn ysgolion. [2]
Cafodd Jones ei chyfweld am y llyfr ar BBC Radio Wales gan Roy Noble yn 2022. [3]
Addysg Hanes Cymru
golyguLawnsiad
golyguDarparwyd y llyfr i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn 2022 mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023. Roedd gwella dysgeidiaeth hanes Cymru yn rhan o'r cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Rydyn ni am sicrhau bod pob disgybl yn deall hanes ein gwlad erbyn iddo adael yr ysgol – nid y digwyddiadau mawr yn unig, ond hanes bywydau a phrofiadau pobl a chymunedau o bob cwr o Gymru."
"Mae Hanes yn y Tir yn llwyddo i ddod â hanes cyfoethog Cymru yn fyw, a bydd yn adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwricwlwm newydd."
Dywedodd Sian Gwenllian, aelod Plaid Cymru ar y Cytundeb Cydweithio:
"Wrth i stori genedlaethol Cymru ddod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, mae darparu gwaith arloesol y Dr Elin Jones ar gyfer pob ysgol yng Nghymru yn ddatblygiad positif."
'Mae addysgu hanes Cymru yn rhan annatod o sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn deall gorffennol, presennol a dyfodol eu cenedl. Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod cwricwlwm Cymru yn gynhwysfawr a bod athrawon yn cael eu cefnogi'n ddigonol wrth ei gyflwyno."
Dyweddodd Elin Jones ei hun, "Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r pwysigrwydd priodol i gynefin y disgyblion, eu hardal leol, ac i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Nod y llyfr yw helpu pobl ifanc i ddeall sut mae hanes wedi ffurfio tirwedd Cymru a sut mae cliwiau i hanes eu cynefin i'w gweld yn y pethau sydd o'u cwmpas, fel adeiladau ac enwau lleoedd."
"Gobeithiaf y bydd plant ac athrawon fel ei gilydd yn mwynhau'r llyfr ac y bydd yn gymorth i ddod a hanes cymhleth Cymru'n fyw, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi".[4]
Barn Elin Jones
golyguDywedodd yr awdur Elin M Jones, "Fy mhryderon i ar hyn o bryd ynglŷn â hanes Cymru yw y byddwn ni yn yr un sefyllfa ag o'n ni 20 mlynedd yn ôl, pan fi oedd yn gyfrifol am y cwricwlwm hanes."
"Ry'ch chi'n gallu dweud beth sydd fod i ddigwydd, ond chi ddim yn gallu gwarantu bod e yn digwydd.
"Felly mae isie mwy na deddfu, mae isie mwy na dweud beth sydd eisiau ei wneud, mae'n rhaid dangos i athrawon shwt mae'i wneud e, shwt mae integreiddio hanes lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru, shwt mae asio hanes Cymru i'r persbectif ehangach.
"Mae e'n broses, ac mae e'n gymhleth. Dwi ddim yn gweld bod unrhyw arweiniad ar hyn o bryd i athrawon ynglŷn â shwt i'w wneud e."[5]
Gwobrau
golyguCyrhaeddodd y llyfr restr fer rhestr fer oedran uwchradd Cymraeg Tir na n-Og yn 2022, a ddisgrifiwyd fel "Llyfr hardd sydd, yn ei symlrwydd o ran cyflwyniad ac iaith, yn gwneud hanes cymhleth yn hygyrch i'r darllenydd." [6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "'Comprehensive' children's book on Welsh history 'a game changer' says publisher". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-09-22. Cyrchwyd 2023-02-26.
- ↑ "Review: History Grounded builds a Welsh 'Red Wall' out of the bricks of the past". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-10-10. Cyrchwyd 2023-02-25.
- ↑ "BBC Radio Wales - Roy Noble, 13/02/2022". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-25.
- ↑ "Llyfr i bob ysgol i helpu athrawon a disgyblion i ddarganfod natur amrywiol a chymhleth hanes Cymru". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2023-02-26.
- ↑ "'Diffyg gwybodaeth' i ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion". BBC Cymru Fyw. 2022-12-03. Cyrchwyd 2023-02-26.
- ↑ "Tir na n-Og Awards 2022 shortlists for books in Welsh and English announced". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-03-11. Cyrchwyd 2023-02-25.