Sian Gwenllian
Aelod o Senedd Plaid Cymru dros etholaeth Arfon yw Siân Gwenllian (ganwyd Mehefin 1956). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Arfon ers Mai 2016.[1] Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad bu'n Gynghorydd Sir Gwynedd, dros etholaeth Y Felinheli. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 bu'n aelod y cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc ac yn ddirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, fe'i gwnaed yn Hyrwyddwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yn economi Gwynedd.
Siân Gwenllian AS | |
---|---|
![]() | |
Aelod o Senedd Cymru dros Arfon | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Alun Ffred Jones |
Mwyafrif | 8,652 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Mehefin 1956 Gwynedd |
Cenedl | Cymraes |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Plant | 4 |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Caerdyddv |
Gwaith | Aelod o Senedd Cymru |
Gwefan | partyofwalesarfon.org |
Magwraeth a bywyd personolGolygu
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Yna bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle'i magwyd.
Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gŵr, Dafydd Vernon o Ben-y-groes, farw o ganser yn 1999. Mynychodd ei phlant Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.
Yn y SeneddGolygu
Etholwyd Siân i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Arfon dros Blaid Cymru. Cafodd ei hail-hethol i Senedd Cymru yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif a gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith Aelodau Senedd Cymru.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Plaid Cymru hold Arfon for Siân Gwenllian. Daily Post, 6 Mai 2016 (Saesneg)