Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Hannah Mitchell (11 Chwefror 1872 - 22 Hydref 1956) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.[1] Yn 2012 ffurfiwyd 'Sefydliad Hannah Mitchell', fforwm ar gyfer datblygu llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Lloegr.

Hannah Mitchell
GanwydHannah Maria Webster Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1872, 1871 Edit this on Wikidata
Hope Woodlands Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1956 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Ganed Hannah Maria Webster yn Hope Woodlands, Swydd Derby, Lloegr ar 11 Chwefror 1872 a bu farw ym Manceinion.

Magwraeth golygu

Fe'i ganed i deulu tlawd ar dyddyn bychan yn Swydd Derby; roedd yn un o 6 o blant.[2] Ni chafodd addysg ffurfiol, er bod ei thad wedi'i dysgu i ddarllen. Arhosodd gartref gan lle gweithiai gyda'i mam, nad oedd yn ei hoffi. Disgwylid iddi edrych ar ôl ei thad a'i brodyr, ond roedd ganddi syniadau llawer mwy beiddgar.[3][4]

Gadawodd Hannah ei chartref pan oedd yn ifanc iawn i weithio fel gwniadwraig yn Bolton, lle daeth yn rhan o'r mudiad sosialaidd. Bu'n gweithio am nifer o flynyddoedd mewn sefydliadau yn ymwneud â sosialaeth, pleidlais menywod a heddychiaeth. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei hethol i Gyngor Dinas Manceinion a bu'n gweithio fel ynad, cyn gweithio yn ddiweddarach i arweinydd y Blaid Lafur, Keir Hardie.[5]

Yn Bolton, dechreuodd Mitchell wella ei haddysg, gan obeithio, am gyfnod, bod yn athrawes.[6] Cafoddd swydd ar aelwyd ysgolfeistr, a ganiataodd iddi fenthyg ei lyfrau.[7]

Teulu golygu

Priododd Gibbon Mitchell yn 1895 a chawsant fab. Nid oedd am ychwaneg o blant, gan na chredai y gallent fforddio rhagor, a hwythau mor dlawd.[8]

Ymgyrchu golygu

Ymunodd gyda'r ymgyrch dros hawliau merched, a chafodd swydd gan Emmeline a Christabel Pankhurst, yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union neu'r WSPU).[9] Dechreuodd areithio'n gyhoeddus, a theithiodd hyd a lled Lloger yn gwneud hynny, yn enwedig cyn isetholiadau.[10] Yn 1907, yn ôl ei meddyg, cafodd iselder ysbryd a achoswyd gan ddiffyg maeth a gorweithio.[10] Camodd Charlotte Despard i'r adwy, gan edrych ar ei hôl.[10] Yn ei bywgraffiad, dywed Mitchell iddi deimlo'n ofidus gan na wnaeth yr un o'r Pankursts gysylltu a hi, na'i chynorthwyo.[9] Yn 1908 gadawodd y WSPU, ac ymunodd gyda mudiad newydd: y Women's Freedom League.[9]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trodd ei hegni tuag at y mudiad dros heddwch, a gweithiodd fel heddychwr.

Yystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Lafur. a bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Routledge, tud. 317
  2. Alport Castles Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback., Peakland Heritage. Retrieved 16 Hydref 2015
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13558524s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  5. Alport Castles Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback., Peakland Heritage. Adalwyd 16 Hydref 2015
  6. Stanley Holton, tud. 94
  7. Stanley Holton, tud. 95
  8. Rosen, tud. 41
  9. 9.0 9.1 9.2 Purvis
  10. 10.0 10.1 10.2 Crawford, tud. 417