Harri II, brenin Lloegr
Harri II o Loegr (5 Mawrth 1133 – 6 Gorffennaf 1189) oedd brenin Lloegr o 25 Hydref 1154 hyd at ei farw.
Harri II, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1133 Le Mans |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1189 o clefyd y system gastroberfeddol Castell Chinon |
Swydd | teyrn Lloegr, dug Normandi, brenin, dug Aquitaine, cownt Angyw, Arglwydd Iwerddon |
Cartre'r teulu | Yr Alban |
Tad | Geoffrey Plantagenet |
Mam | Yr Ymerodres Matilda |
Priod | Eleanor o Aquitaine |
Partner | Ykenai, Rosamund Clifford, Ida de Tosny, Alys, Alice de Porhoët, Nesta (?) |
Plant | Geoffrey, William IX, iarll Poitiers, Harri, y brenin ieuanc, Rhisiart I, brenin Lloegr, Geoffrey II, dug Llydaw, Matilda o Loegr, duges Saxony, Eleanor o Loegr, brenhines Castile, Joanna, John, brenin Lloegr, William Longespée, 3ydd iarll Salisbury, Morgan, Peter, merch D'anjou, Matilda o Barking, Hugh o Wells, Richard, Plentyn o Loegr |
Llinach | Llinach y Plantagenet, Angevins, Llinach Normandi |
Roedd yn fab i'r Ymerawdres Matilda a Geoffrey Plantagenet. Cafodd ei eni yn Anjou. Ei wraig oedd Eleanor o Aquitaine. Harri oedd tad y brenhinoedd Rhisiart I, brenin Lloegr a John, brenin Lloegr.
Derbyniodd ddugiaeth Normandi gan ei dad yn 1150, yna ar farwolaeth ei dad yn 1151, etifeddodd Anjou a Maine. Yn 1152 daeth yn ddug Aquitaine trwy briodi Eleanor o Aquitaine, yna yn 1154 etifeddodd goron Lloegr. Bu farw yn y Castell Chinon.
Llysenwau: "Curt Mantle", "Fitz Empress", "Y Llew Cyfiawnder".
Plant
golygu- Wiliam (1153–1156)
- Harri, y brenin ieuanc (1155–1183)
- Matilda, neu Maud (1156–1189)
- Rhisiart I (1157–1199), brenin Lloegr 1189–1199
- Sieffre, Dug Llydaw (1158–1186)
- Eleanor, brenhines Castile (1162–1214)
- Joanna, brenhines Sisili (1165–1199)
- John (1167–1216)
Cymru
golyguCeisiodd Harri II oresgyn teyrnas Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 ac eto yn 1163 a 1165.
Yn 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw ymreolaeth y Gymru frodorol yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Ymgynullodd byddin yr Angefiniaid yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arhosai’r Cymry yr ochr arall i Fynydd y Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru. Roedd mintai o’r Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Angefiniaid gyrraedd naill ai Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, ymosodasant ar flaengad byddin yr Angefiniaid gyda nifer o ddewrion yn syrthio ar y ddwy ochr. Gellir cyfeirio at y rhagod fel Brwydr Coed Ceiriog. Yn bwysicach byth roedd y tywydd yn erbyn Harri. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.
Rhagflaenydd: Steffan |
Brenin Lloegr 25 Hydref 1154 – 6 Gorffennaf 1189 |
Olynydd: Rhisiart I |