Harri Parri (Harri Bach o Graig-y-gath)

bardd a chlerwr

Roedd Harri Parri (Harri Bach o Graig-y-gath) (17091800) yn fardd gwlad a chlerwr Cymreig.[1]

Harri Parri
Ganwyd1709 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1800 Edit this on Wikidata
Llanfyllin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, llifiwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Harri Bach yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn. Gan ei fod yn brolio iddo gael ei eni yn y flwyddyn y bu farw Huw Morus (Eos Ceiriog 1622 - 1709), a gan hynny wedi etifeddu ei enaid prydyddol, gellir bod yn weddol hyderus mae 1709 oedd blwyddyn ei enedigaeth.[2] Yr unig Harri ap Harri i gael ei fedyddio yn Llanfihangel-yng-ngwynfa yn ystod y cyfnod oedd Harri fab Harri Tomos o Ddolwar a bedyddiwyd ar 9 Mai 1709 [a]. Mae'n bosib, ond nid oes sicrwydd, mae hwn oedd Harri Bach.

Llifiwr coed oedd Harri bach wrth ei alwedigaeth. Llifo ar dir Llwydiarth ydoedd pan aeth Gwallter Mechain ato i ymofyn cyngor am reolau canu caeth.[3] Cyhoeddwyd ychydig o'i englynion mewn almanaciau. Mae'r cyntaf i'w gweld yn Almanac Siôn Prys ym 1744 , lle ceir englyn o'i eiddo a defnyddiwyd i agor eisteddfod yn Llanfair Caereinion. Yn Almanac Howell, Llanidloes ceir cyfres o 19 o englynion lle mae'n dwrdio anghydffurfwyr a Methodistiaid o dan y pennawd Ceryddiad difrifol i'r Methodistiaid sy'n cynnwys ei englyn enwocaf: [4]

Nid a Harri Parri pêr – i wrando
Ar Roundhead na Chwacer
Y dynion sydd dan y sêr
Yn peidio dweud eu Pader.

Yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, pan oedd wedi mynd rhy hen i lifo lawer, byddai Harri Bach yn ennill tamaid trwy glera. Cyfansoddai Carolau pob mis Mai yn adrodd newyddion y flwyddyn ddiwethaf, gan eu canu mewn ffeiriau, a byddai'n talu am fwyd a llety trwy ganu englynion o glod i'w lletywyr.[5]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Harri Bach tua 90 / 91 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar 15 Tachwedd 1800.[6]

Nodiadau

golygu
  1. Henricus fil Henrici Thomas de Dolwar bapt fuit nono de May; Archifau Cymru - Cofrestr bedydd Llanfihangel-yng-Ngwynfa tudalen 20

Cyfeiriadau

golygu
  1. "PARRI, HARRI ('Harri Bach o Graig-y-gath'; 1709? - 1800), bardd a chlerwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-22.
  2. Y Gwyliedydd Mai 1833 - Barddoniaeth adalwyd 22 Hydref 2020
  3. Bye-gones relating to Wales and the border counties Medi 1876 - REV WALTER DAVIES (GWALLTER MECHAIN) adalwyd 22 Hydref 2020
  4. Williams, Richard; Montgomeryshire Worthies (1894) tud. 235. Erthygl Harri Parri adalwyd 22 Hydref 2020
  5. Montgomeryshire collections relating to Montgomeryshire and its borders. Cyfrol 71, 1983, tud: 48 -The Llanfyllin Printers adalwyd 22 Hydref 2020
  6. Archifau Cymru. Cofrestr Claddedigaethau Llanfihangel-yng-Ngwynfa tudalen 38