Iddewiaeth Hasidig
Enwad Iddewig sy'n canolbwyntio ar gyfriniaeth yw Iddewiaeth Hasidig, Iddewiaeth Hasidaidd neu Hasidiaeth.
Sefydlwyd gan y Rabi Israel Baal Shem Tov tua chanol y 18g. Cyfunodd y traddodiadau Iddewig o ysbrydolrwydd ac ysgolheictod, gan wrthwynebu astudiaethau seciwlar a rhesymoliaeth. Ymledodd ar draws Dwyrain Ewrop, yn enwedig Gwlad Pwyl a Lithwania, gan ddenu Iddewon gyda'i ganeuon a dawnsiau diwygiadol. Tynna athroniaeth Hasidig ar yr ysgol feddwl Cabala Lurianig, ffurf ar Gabala a ddatblygwyd gan y Rabi Isaac Luria yn yr 16g, ond heb ei hagwedd asgetaidd.[1] Pwysleisir mewnfodaeth Duw yn y bydysawd, yr angen i uno â Duw a chrefyddoldeb cyson, ac ysbrydolrwydd y byd corfforol a bywyd pob dydd. Trefnir dilynwyr Hasidiaeth yn "llysoedd" neu "linachau" annibynnol, a phob un gydag arweinydd etifeddol o'r enw Rebbe.
Rhwygodd yr enwad yn ystod ei gyfnod cynnar a datblygodd gwrthfudiad y Mitnagdim, sy'n pwysleisio dysgeidiaeth rabinaidd a duwioldeb. Sefydlwyd y Chabad neu'r Lubavitch ym 1775, sy'n amrywiaeth ddeallusol ar y traddodiad Hasidig.
Gellir ystyried Hasidiaeth yn un o ddwy brif gangen o Iddewiaeth Haredi neu Dra Uniongrededd, ynghŷd â'r traddodiad Lithwanaidd sy'n pwysleisio astudiaeth y Talmwd yn yr yeshivah. Trigai'r mwyafrif o ddilynwyr heddiw yn yr Unol Daleithiau, Israel a Lloegr. Mae'r mudiad modern yn hynod o geidwadol ac yn byw mewn cymunedau ar wahân i'r gymdeithas fwy.
Teledu
golyguGellir cael blas gyfoes lle-naturiol o fywyd teulu a chymdeithas Iddewon Hasidig yn y gyfres deledu Israeli,Shtisel a ddarlledwyd ar sianel Netflix yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gyfres ddrama ffuglennol yn dilyn hynt a helynt carwriaethol a theuluol y teulu o'r un enw sy'n byw yn ardal Geula sydd ger Mea She'arim yn Jeriwsalem.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Baʿal Shem Ṭov. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2016.