Cysyniad metaffisegol sy'n disgrifio hollbresenoldeb parhaol yn y bydysawd yw mewnfodaeth.[1] Egwyddor ysbrydol neu gosmig, gan amlaf duwdod neu fod mawr, a'i pherthynas i'r byd naturiol yw testun y cysyniad hwn. Uwchfodaeth (neu drosgynoldeb), sy'n disgrifio natur ar wahân ac yn aml goruchafol i'r byd, yw cyferbyniad mewnfodaeth. Nid yw'r ddwy syniad o reidrwydd yn nacáu'r naill y llall.

Duw sy'n ganolbwynt i ddamcaniaethau mewnfodol mewn athroniaeth grefyddol a diwinyddiaeth. Credir bod duw yn uwchfodol ac yn fewnfodol gan y mwyafrif o grefyddau ac enwadau undduwaidd, er bod diwinyddion a chrefyddwyr unigol yn tueddu i bwysleisio un nodwedd dros y llall. Hunanamlygiad yr uwchfod, neu "gorff" duw, yw'r cyfanfyd yn ôl rhai. Mewnfodaeth yw sail holldduwiaeth, sy'n mynnu bod duw ynghlwm â'r bydysawd. Dadleua panentheistiaeth bod duw yn rhan o bob agwedd o'r bydysawd, a hefyd yn bodoli y tu hwnt i ofod ac amser.

Ym maes yr athronydd, mae mewnfodaeth yn gysyniad pwysig i'r Stoiciaid ac mewn systemau meddwl Giordano Bruno a Baruch Spinoza.

Cyfeiriadau golygu

  1.  mewnfodaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Hydref 2016.