Jeriwsalem

(Ailgyfeiriad o Caersalem)

Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Caersalem neu Jeriwsalem (Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושלים yn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon;[1][2][3][4] mae Awdurdod Cenedlaethol Palesteina hefyd yn ei hawlio fel prifddinas. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod). Mae ei phoblogaeth oddeutu 936,425 (2019)[5].

Jeriwsalem
Mathdinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlShalim, Q12246332 Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Ierusalim.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth936,425 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mileniwm 4. CC Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMoshe Leon Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJeriwsalem Fwyaf Edit this on Wikidata
SirLlywodraethiaeth Jeriwsalem, Bwrdeistref Jeriwsalem Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd125.42 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr754 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRamat Rachel, Mevaseret Zion, Beit Zayit, Hizma, Al-Ram, Ramallah, Even Sapir, Beit Yala, Abu Dis, Ora, Bethlehem Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.7789°N 35.2256°E Edit this on Wikidata
Cod post91000–91999 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholBwrdeistref Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Jeriwsalem, Maer Jeriwsalem, Maer Jeriwsalem, henadur Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMoshe Leon Edit this on Wikidata
Map
Y Mur Gorllewinol a'r Gromen ar y Graig (Mosg Al-Aqsa) yng Nghaersalem

Mae holl adrannau llywodraeth Israel wedi'u lleoli yn Jeriwsalem, gan gynnwys y Knesset (senedd Israel), preswylfeydd y Prif Weinidog (y Beit Aghion) a'r Arlywydd (y Beit HaNassi), ac yma hefyd y mae'r Goruchaf Lys.

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir Caersalem ar fryniau o uchder canolig yng nghanol Bryniau Jwdea, tua 30 km i'r gorllewin o lannau gogledd-orllewinol y Môr Marw. Saif ar ran deheuol llwyfandir ym Mynyddoedd y Judeaidd, sy'n cynnwys Mynydd yr Olewydd (Dwyrain) a Mynydd Scopus (Gogledd Ddwyrain). Uchder yr Hen Ddinas yw tua 760m (2,490 troedfedd). Amgylchynir Jeriwsalem gan gymoedd ac afonydd sych (neu 'wadis'). Mae dyffrynoedd Kidron, Hinnom, a Tyropoeon yn croesi mewn ardal ychydig i'r de o Hen Ddinas Jeriwsalem a rhed Dyffryn Kidron i'r dwyrain o'r Hen Ddinas gan wahanu Mynydd yr Olewydd a'r ddinas. Ar hyd ochr ddeheuol hen Jeriwsalem mae Dyffryn Hinnom, mynwent serth sy'n gysylltiedig â storiau Beiblaidd am Gehenna, sy'n symbol o uffern.

Yn ystod y cyfnod Beiblaidd, roedd Jeriwsalem wedi'i hamgylchynu gan goedwigoedd o goed almon, olewydd a phîn. Dros ganrifoedd o ryfela, dinistriwyd y coedwigoedd hyn. Mae ffermwyr yn rhanbarth Jeriwsalem felly wedi adeiladu terasau cerrig ar hyd y llethrau i ddal y pridd yn ôl, nodwedd sy'n dal i fod yn eitha amlwg yn nhirlun Jeriwsalem.

Bu'r cyflenwad dŵr bob amser yn broblem fawr yn Jeriwsalem, fel y tystiwyd gan y rhwydwaith cymhleth o ddyfrffosydd, twneli, pyllau a chwistrellau hynafol yn y ddinas.

 
Heddweision Israel yn cwrdd â Legionnaire o'r Iorddonen ger Gat Mandelbaum (tua 1950).

Trwy gydol ei hanes, mae Jeriwsalem wedi cael ei dinistrio o leiaf ddwywaith, dan warchae 23 gwaith, ei chipio a'i hail-ddal 44 gwaith, ac ymosodwyd arni 52 gwaith.[6] Mae'r rhan o Jeriwsalem o'r enw 'Dinas Dafydd' yn dangos tystiolaeth o anheddiad yn y 4edd mileniwm CC, ar ffurf gwersylloedd bugeiliaid crwydrol.[7] Yn y cyfnod Canaan (14g CC), enwyd Jeriwsalem yn Urusalim ar dabledi hynafol yr Aifft, gair a oedd yn ôl pob tebyg yn golygu "Dinas Shalem" ar ôl un o dduwiau Canaan. Yn ystod cyfnod Israel, cychwynnodd gweithgaredd adeiladu sylweddol yn Jeriwsalem yn y 9g CC (Oes yr Haearn II), ac yn yr 8g CC datblygodd y ddinas yn ganolfan grefyddol a gweinyddol Teyrnas Jwda.[8]

Digwydd y cyfeiriadau cynharaf at Jeriwsalem yn llyfrau'r Hen Destament. Dywedir i Dafydd, ail frenin Israel, wneud y ddinas yn brifddinas ei deyrnas wedi iddo ei chipio oddi ar y Jebiwsiaid. Cipiodd Nebuchodnesar y ddinas a dygodd i ffwrdd y rhan fwyaf o'r trigolion yn gaethweision i Fabilon.

Gwelodd y ddinas sawl brwydr yn ystod y Croesgadau. Ffurfiwyd urdd Marchogion yr Ysbyty yno tua'r flwyddyn 1070.

Yn 1538, ailadeiladwyd waliau'r ddinas am y tro olaf o amgylch Jeriwsalem o dan yr Ardderchocaf Suleiman (Twrceg: Süleyman-ı Evvel). Heddiw mae'r waliau hynny'n diffinio'r Hen Ddinas, sydd wedi'i rhannu'n n draddodiadol yn bedwar chwarter - a elwir ers dechrau'r 19g fel y Chwarteri Armenaidd, Cristnogol, Iddewig a Mwslimaidd.[9] Daeth yr Hen Ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd ym 1981, ac mae ar y Rhestr o Dreftadaeth y Byd mewn Perygl. [18] Er 1860 mae Jeriwsalem wedi tyfu ymhell y tu hwnt i ffiniau'r Hen Ddinas. Yn 2015, roedd gan Jeriwsalem boblogaeth o ryw 850,000 o drigolion, yn cynnwys oddeutu 200,000 o Israeliaid seciwlar Iddewig, 350,000 o Iddewon Haredi a 300,000 o Balesteiniaid.[10] Erbyn 2016, roedd y boblogaeth yn 882,700, ac roedd 536,600 (60.8%) o Iddewon, 319,800 (36.2%) o Fwslemiaid a 15,800 (1.8%) o Gristnogion.[11]

Crefydd

golygu

Yn Islam Sunni, Jeriwsalem yw'r drydedd dinas mwyaf sanctaidd, ar ôl Mecca a Medina.[12][13] Yn y traddodiad Islamaidd, yn 610 CE daeth y qibla cyntaf, canolbwynt gweddi Fwslimaidd (salat),[14] a gwnaeth Muhammad ei Daith Nos yno ddeng mlynedd yn ddiweddarach, gan esgyn i'r nefoedd lle mae'n siarad â Duw, yn ôl y Corân.[15]

Cyfeirir yn aml at Gaersalem yn yr Hen Destament. Cododd Solomon ei deml enwog yno i ddiogelu Arch y Cyfamod. Ar fapiau canoloesol lleolir y ddinas yng nghanol y byd a chredid y byddai'r Ail Ddyfodiad yn digwydd yn Nyffryn Jehoshaphat yn ymyl y ddinas a Jersiwsalem Newydd yn cael ei chodi.

Mae'r Iddewon yn ystyried dinistr Teml Herod Fawr yn y flwyddyn 70 gan y Rhufeiniaid dan Titus yn drychineb cenedlaethol a gofir hyd heddiw. Mae'r cysegrfan Islamaidd, Mosg Al-Aqsa - a elwir hefyd 'y Gromen ar y Graig' (yn gamarweiniol) - yn sefyll ar ei safle heddiw.

I'r Cristnogion mae Caersalem yn ddinas sanctaidd oherwydd ei lle amlwg ym mywyd Iesu Grist; y lle pwysicaf a gysylltir ag ef yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd ar y bryn gorllewinol lle honodd yr ymerodr Cwstennin fod bedd Crist i'w gael. Mae'r Via Dolorosa yn dilyn y llwybr a gerddwyd gan Grist o lys Pontius Pilate i Fryn Calfaria.

Y ddinas heddiw

golygu

Heddiw mae tua 700,000 o bobl yn byw yn y ddinas ac mae'r amrywiaeth o genedlaethau, crefyddau a chymdeithas a geir yndi'n fawr iawn. Mae gan yr "Hen Ddinas", sydd yng nghanol y ddinas bresennol, fur o'i hamgylch. Rhennir y dref o gwmpas yr "Hen Ddinas" yn bedair ardal: un i'r Iddewon, un i'r Cristnogion, un i'r Armeniaid ac un arall i'r Mwslemiaid.

Tiriogaeth ddadleuol

golygu

Ceir cryn anghytundeb am statws y ddinas. Mae hi ar y llinell cadoediad rhwng Israel a'r Lan Orllewinol y cytunwyd arni yn Cytundeb Cadoediad 1949, ond mae Israel yn rheoli'r holl ddinas ac yn ôl cyfraith Israel hi yw prifddinas y wlad. Felly mae llywodraeth Israel a llawer o sefydliadau Iddewig eraill yno. Mae Penderfyniad 242 y CU yn galw ar i Israel "dynnu allan o'r diriogaeth a feddianwyd," Penderfyniad 237 yn gwrthod yr ychanegiad o'r ddinas i Israel a Phenderfyniad 405 yn cadarnhau fod Caersalem yn diriogaeth Balesteinaidd a feddianwyd. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (lleolir llysgenhadaeth UDA yn Tel Aviv, er enghraifft).

 

Ar 6 Rhagfyr 2017, dywedodd Llywydd yr U.S. Donald Trump fod Jeriwsalem yn brifddinas Israel a chyhoeddodd ei fwriad i symud llysgenhadaeth America i Jeriwsalem, gan wrthdroi degawdau o bolisi'r Unol Daleithiau ar y mater. Beirniadwyd y symudiad yn hallt gan lawer o wledydd a chefnogwyd penderfyniad gan pob un o 14 aelod arall Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i gondemnio penderfyniad yr Unol Daleithiau.

Mae Mur Israelaidd y Lan Orllewinol yn ffinio ac ymwthio i faestrefi Jeriwsalem.[16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Israel plans 1,300 East Jerusalem Jewish settler homes". BBC News. 9 Tachwedd 2010. East Jerusalem is regarded as occupied Palestinian territory by the international community, but Israel says it is part of its territory.
  2. "The status of Jerusalem" (PDF). The Question of Palestine & the United Nations. United Nations Department of Public Information. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Awst 2019. East Jerusalem has been considered, by both the General Assembly and the Security Council, as part of the occupied Palestinian territory.
  3. "Israeli authorities back 600 new East Jerusalem homes". BBC News. 26 Chwefror 2010. Cyrchwyd 18 Medi 2013.
  4. "Resolution 298 September 25, 1971". Y Cenhedloedd Unedig. 25 Medi 1971. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Awst 2013. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2018. Recalling its resolutions... concerning measures and actions by Israel designed to change the status of the Israeli-occupied section of Jerusalem,...
  5. https://citypopulation.de/en/israel/jerusalem/_/3000__yerushalayim/.
  6. "Do We Divide the Holiest Holy City?". Moment Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2008. Cyrchwyd 5 Mawrth 2008. According to Eric H. Cline's tally in Jerusalem Besieged.
  7. Greenberg, Raphael; Mizrachi, Yonathan (10 Medi 2013). "From Shiloah to Silwan – A Visitor's Guide". Emek Shaveh. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-15. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2018.
  8. Moore, Megan Bishop; Kelle, Brad E. (17 Mai 2011). Biblical History and Israel's Past: The Changing Study of the Bible and History. Wm. B. Eerdmans Publishing. ISBN 9780802862600 – drwy Google Books.
  9. Ben-Arieh, Yehoshua (1984). Jerusalem in the 19th Century, The Old City. Yad Izhak Ben Zvi & St. Martin's Press. t. 14. ISBN 0-312-44187-8.
  10. Tom Teicholz (20 Gorffennaf 2015). "Mr. Jerusalem: Nir Hasson of Haaretz's 'The Jerusalem Blog'". Forbes Israel. Cyrchwyd 4 Awst 2017.
  11. "Table III/9 – Poblogaeth yn Israel ac yn Jeriwsalem, yn ôl Crefydd, 1988 – 2016" (PDF). jerusaleminstitute.org.il. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 10 Mai 2019. Cyrchwyd 10 Mai 2019.
  12. Y drydedd dinas mwyaf sanctaidd:
  13. Middle East peace plans by Willard A. Beling: "The Aqsa Mosque on the Temple Mount is the third holiest site in Sunni Islam after Mecca and Medina".
  14. Lewis, Bernard; Holt, P. M.; Lambton, Ann, gol. (1986). Cambridge History of Islam. Cambridge University Press.
  15. Buchanan, Allen (2004). States, Nations, and Borders: The Ethics of Making Boundaries. Cambridge University Press. ISBN 0-521-52575-6. Cyrchwyd 9 Mehefin 2008.
  16. https://www.972mag.com/the-wall-10-years-on-the-great-israeli-project/