Hausa (iaith)
iaith
Iaith Affro-Asiaidd yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Tsiadaidd yw 'Hausa. Hi yw'r iaith Tsiadaidd gyda mwyaf o siaradwyr; tua 24 miliwn o siaradwyr iaith-gyntaf a tua 15 miliwn o siaradwyr ail-iaith. Mae'n perthyn i isddosbarth yr ieithoedd Tsiadaidd Gorllewinol.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw ![]() |
Math | West Chadic ![]() |
Aelod o'r canlynol | Ieithoedd Affro-Asiaidd ![]() |
Enw brodorol | Hausa ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ha ![]() |
cod ISO 639-2 | hau ![]() |
cod ISO 639-3 | hau ![]() |
Gwladwriaeth | Benin, Bwrcina Ffaso, Ghana, Camerŵn, Niger, Nigeria, Togo, Tsiad ![]() |
Rhanbarth | Gorllewin Affrica ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Yr wyddor Arabeg ![]() |
![]() |
Siaradwyr Hausa fel mamiaith yw'r bobl Hausa, sy'n byw yn Niger a gogledd Nigeria, ond defnyddir yr iaith fel iaith gyffredinol mewn rhannau helaeth o Orllewin Affrica, fel Swahili yn Nwyrain Affrica. Mae'n iaith swyddogol yng ngogledd Nigeria ac yn iaith genedlaethol yn Niger.
Arferai'r iaith ddefnyddio'r wyddor Arabeg, ond mae'n awr wedi newid i'r wyddor Rufeinig.
- ↑ Ethnolog; dyddiad cyrchiad: 23 Ebrill 2022; wedi'i ddiddwytho o'r canlynol: rhestr ieithoedd yn nhrefn nifer eu siaradwyr brodorol.