Josef Haydn
cyfansoddwr a aned yn 1732
(Ailgyfeiriwyd o Haydn)
Cyfansoddwr o Awstria oedd Franz Josef Haydn (31 Mawrth 1732 – 31 Mai 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy gerllaw dinas Eisenstadt.
Josef Haydn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Mawrth 1732 ![]() Rohrau ![]() |
Bu farw | 31 Mai 1809 ![]() Fienna ![]() |
Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Awstria, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth ![]() |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, cerddolegydd, pianydd ![]() |
Swydd | côr-feistr ![]() |
Adnabyddus am | Symphony No. 100, Symphony No. 101, Das Lied der Deutschen ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Prif ddylanwad | Johann Joseph Fux ![]() |
Mudiad | clasuriaeth ![]() |
Tad | Mathias Haydn ![]() |
Priod | Anna Haydn ![]() |
Gwobr/au | honorary citizen of Vienna ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.
Roedd ei dad Matthias Haydn yn gerddor gwerin brwd a dysgodd ei hun i ganu'r delyn. Roedd ei rieni wedi deall fod yna dalent yn eu mab, ac felly fe gytuno nhw ei fod yn mynd i fyw gyda perthynas iddyn nhw, Mattias Franck, ysgolfeistr a chorfeistr yn Hainburg rhyw ddeg milltir i ffwrdd, ac yntau ond yn chwech oed.
Cerdd
golygu- Symffoni rhif 22 ("Yr Athronydd")
- Symffoni rhif 45 ("Ffarwel")
- Symffoni rhif 92 ("Rhydychen")
- Symffoni rhif 104 ("Llundain")
- Symffoni rhif 105 ("Sinfonia Concertante")
- Y Creadigaeth (oratorio)
- Offeren rhif 9 ("Nelson")