Archddugiaeth Awstria

Tywysogaeth a fodolai yng Nghanolbarth Ewrop o 1453 i 1806 oedd Archddugiaeth Awstria (Almaeneg: Erzherzogtum Österreich) a oedd yn un o brif daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ac yn diriogaeth ganolog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Roedd yn rhan o'r Cylch Awstriaidd yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig.

Archddugiaeth Awstria
Erzherzogtum Österreich  (Almaeneg)
Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1453–1806)
Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (o 1526)
Dugiaeth Awstria
1453–1806a
Baner Arfbais
Arwyddair
Alles Erdreich ist Österreich untertan
"Mae'r holl fyd yn ddarostyngedig i Awstria"[1]
Location of Awstria
Archddugiaeth Awstria o fewn tiriogaethau etifeddol y Hapsbwrgiaid (oren), 1477.
Prifddinas Fienna
Ieithoedd Bafareg, Almaeneg
Crefydd Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Llywodraeth Archddugiaeth
Archddug
 -  1453–1457 Ladislaus yr Ôl-anedig
(archddug ffurfiol cyntaf)
 -  1792–1806 Ffransis I (olafa)
Cyfnod hanesyddol Yr Oesoedd Canol, Cyfnod Modern Cynnar
 -  Ffugiwyd y Privilegium Maius gan y Dug Rudolf IV 1358/59
 -  Cydnabuwyd teitl yr archddug gan Ffredrig III 6 Ionawr 1453
 -  Ymunodd â'r Cylch Awstriaidd 1512
 -  Ferdinand I yn rhaglyw yn ôl Cytundeb Worms 28 Ebrill 1521
 -  Rhyfel Olyniaeth Awstria 1740–1748
 -  Sefydlwyd Ymerodraeth Awstria 11 Awst 1804
 -  Diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig 6 Awst 1806
Arian cyfred Conventionsthaler
^a Parhaodd y teitl "Archddug Awstria" yn rhan o deitl llawn swyddogol arweinwyr Awstria nes 1918.

Sefydlwyd Ardalyddiaeth Awstria yn 976, dan reolaeth Tŷ Babenberg ac yn rhan o Ddugiaeth Bafaria, ar y ffin rhwng yr Ymerodraeth Lân Rufeinig â Thywysogaeth Hwngari. Yn 1156 fe'i dyrchafwyd yn dalaith ymerodrol ynddo'i hun ar ffurf Dugiaeth Awstria, yn ôl y Privilegium Minus a gyhoeddwyd gan yr Ymerawdwr Ffredrig I. Daeth Awstria dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg yn niwedd y 13g, ac yn 1440 coronwyd Ffredrig III yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Yn 1453, mabwysiadodd Ffredrig y teitl Archddug Awstria fel pennaeth Tŷ Hapsbwrg, ac o hynny ymlaen, ac eithrio'r ysbaid 1742–45 yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, bu pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig hefyd yn dwyn teitl yr Archddug.

Daeth Archddugiaeth Awstria i ben yn sgil diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn 1806. Cyn hynny, yn 1804, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis II, yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig olaf, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Parhaodd Archddug Awstria yn rhan o deitl llawn swyddogol arweinwyr Awstria nes 1918, er nad oedd yr archddugiaeth ei hun yn bodoli bellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Heimann, Heinz-Dieter (2010). Die Habsburger : Dynastie und Kaiserreiche. München: Beck. tt. 38–45. ISBN 3-406-44754-6.