Haydn Llewellyn Davies
Roedd Haydn Llewellyn Davies (11 Tachwedd 1921 – 24 Mawrth 2008) yn gerflunydd o Gymru a ymfudodd i Ganada, lle ddaeth ei gerfluniau adeileddol yn nodwedd o nifer o adeiladau cyhoeddus trwy'r Wlad.[1]
Haydn Llewellyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 11 Tachwedd 1921 Rhymni |
Bu farw | 24 Mawrth 2008 Toronto |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Cefndir
golyguGanwyd Davies yn y Rhymni yn fab i Emrys Davies a'i wraig Rosina (neé Gallop). Symudodd y teulu i Ganada ym 1929 pan oedd Haydn yn 7 mlwydd oed.[2]
Dechreuodd cael hyfforddiant yn y celfyddydau yn y Central Technical School yn Ontario gan raddio ym 1939. Yn fuan wedi iddo raddio dechreuodd yr Ail Ryfel Byd ac ymunodd Davies ar RCFC (Awyrlu Brenhinol Canada) yn yr adran radar. Bu'n gwasanaethu ar y cyd a'r RAF yn Ewrop. Cyrhaeddodd safle sarsiant a chafwyd cyfeiriad ato mewn cad lythyrau. Wrth wasanaethu cynlluniodd poster i hybu "Victory Bonds" i godi arian ar gyfer achos y rhyfel. Mae copi o'r poster yng nghasgliad parhaol Amgueddfa Victoria ac Albert.[3] Ail afaelodd yn ei addysg gelfyddydol wedi'r rhyfel yng Ngholeg Celf Ontario gan raddio ym 1947. Parhaodd a'i addysg trwy wneud cyrsiau allanol ym mhrifysgolion Ontario a Toronto (1972-1974)
Ym 1948 priododd Eva Koller, bu iddynt dau fab.
Gwaith
golyguBu'n gweithio yn y maes hysbysebu a dylunio graffeg gan ddod yn gyfarwyddwr a phrif is lywydd Cwmni McCann Advertising of Canada Limited. Rhoddodd gorau i'w swydd yn 55 mlwydd oed ym 1976 i fynd yn gerflunydd llawn amser ac i wasanaethu fel arlunydd preswyl yn yr Indian river Collage ac yn athro yng nghanolfan celfyddydau ac arlunio Vero Beach, Florida.
Dewiswyd ei gerflun gyntaf, Homage (1974) o blith 150 o gyflwyniadau rhyngwladol o ganlyniad i gystadleuaeth gan Lambton College, Sarnia. Cynrychiolir ei waith yn rhyngwladol mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus, corfforaethol a phreifat. Yn rhyngwladol caiff ei gynrychioli'n barhaol mewn orielau cyhoeddus ac amgueddfeydd yn Rhufain, Fenis, Llundain a Brwsel, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, yn ogystal ag Amgueddfa Gelf Dde-ddwyrain Texas, Canolfan Vero Beach ar gyfer y Celfyddydau, ac Amgueddfa Gelf Asheville yng Nghanada. Mae ei gerfluniau yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn Toronto, Burlington, Cambridge, Peterborough, Sault Ste. Marie, Stratford a Windsor.[4]
Yn broffesiynol, roedd Davies wedi bod yn aelod tymor hir o Academi Frenhinol Canada [5] ac wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp yn ogystal â'i arddangosfeydd unigol ei hun. Yn 2004, dynodwyd cerflun Davies Algoma Blue yn ddarn treftadaeth gan Lywodraeth Canada ac mae yn casgliad parhaol Oriel Gelf Algoma.[6]
Er ei fod wedi ymadael a Chymru ers nifer fawr o flynyddoedd, roedd tirlun Cymru yn ddylanwad mawr ar ei waith, yn arbennig ei chromlechi hynafol.[7]
Yn 2005, dymchwelodd Lambton College Homage heb ganiatâd Davies gan honni ei fod yn peryglu plant oedd yn ceisio dringo arno. Cododd Davies achos llys yn erbyn y coleg am $1 miliwn. Bu farw cyn i'r achos cyrraedd y llys.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty Sunnybrook, Toronto o gymhlethdodau yn ymwneud â chanser yr afu a'r ysgyfaint yn 86 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ CBC Canadian sculptor Haydn Davies dies at 86 adalwyd 21 Hydref 2018
- ↑ Board of Trade, Outwards Passenger Lists. Departures. Ship: Minnedosa 25 May 1929; Cardiff, Wales to Quebec, Canada
- ↑ Your Tomorrow is in your hands Today poster adalwyd 21 Hydref 2018
- ↑ Davies, Haydn Llewellyn, Date de décès: vendredi 28 mars 2008 adalwyd 21 Hydref 2018
- ↑ "Members since 1880". Royal Canadian Academy of Arts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2011. Cyrchwyd 11 September 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Datganiad i'r Wasg Oriel Algoma Haydn Llewellyn Davies: 1921-2008 adalwyd 21 Hydref 2018
- ↑ Windsor Sculpture Park - Composition with Five Elements - Haydn Davies Archifwyd 2019-04-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Hydref 2018