Haydn Morgan
Roedd Haydn Morgan (30 Gorffennaf 1936 – 24 Gorffennaf 2018, yn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig a gynrychiolodd tîm genedlaethol Cymru 27 gwaith a thîm y Llewod ar deithiau i Seland Newydd a De Affrica.[1]
Haydn Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1936 Cymru |
Bu farw | 23 Gorffennaf 2018 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertyleri, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | blaenasgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguGanwyd Morgan yn Oakdale, Caerffili yn blentyn i Harold ac Eunice Morgan. Roedd ei dad yn löwr yng nglofa'r Oakdale. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pontnewydd ar Wysg. Bu'n chware fel canolwr i dîm yr ysgol.
Gyrfa
golyguCyflawnodd Morgan cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chatrawd y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol. Bu'n chware rygbi i dîm y Byddin Prydeinig fel blaen asgellwr.
Gan ei fod yn chware yn ystod cyfnod pan fu chware rygbi clwb a rhyngwladol i fod yn gamp cwbl amatur, bu'n ennill ei fywoliaeth fel gwerthwr ceir.
Wedi i'w yrfa rygbi ryngwladol ddod i ben, aeth Morgan i fyw i Dde Affrica, lle bu'n chwarae dros clybiau'r Wanderers yn Johannesburg a Transvaal B. Yn Ne Affrica bu'n ennill ei damaid drwy gwerthu ceir i gwmni Nissan cyn sefydlu ei fusnes ei hun a oedd yn cynhyrchu blociau concrit.
Gyrfa rygbi
golyguClwb
golyguBu Morgan yn chwarae, yn bennaf, ar gyfer Clwb Rygbi Abertyleri. Mae rhai wedi awgrymu bod ei ffyddlondeb i Abertyleri wedi cael effaith ar ei yrfa ryngwladol, gan ei fod wedi aros yn driw i'r tîm yn hytrach na symud i dîm fwy ffasiynol.[2]
Rhyngwladol
golyguChwaraeodd 27 gêm ryngwladol dros Gymru:
Teulu
golyguCafodd Hayden a Betty, ei wraig dau fab.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Nhrefynwy ychydig yn brin o'i benblwydd yn 82 mlwydd oed.
LLyfryddiaeth
golygu- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Telegraph Obituaries 10 Awst 2018 Haydn Morgan adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ Wales Online One of Wales' greatest flankers, who refused to leave his local team, has passed away adalwyd 2 Ionawr 2019