Nissan
Cwmni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn gwneud ceir ydy Nissan Motor Corporation (日産自動車株式会社 Nissan Jidōsha Kabushiki-gaisha), a dalfyrir fel arfer i Nissan (/ˈniːsɑːn/ neu Saesneg Prydain: /ˈnɪsæn/; Japanese: [nisːaɴ]), sydd a'i bencadlys yn Nishi-ku, Yokohama, Japan.
Math | cwmni cyhoeddus |
---|---|
Math o fusnes | kabushiki gaisha (math o gwmni) |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
ISIN | JP3672400003 |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 26 Rhagfyr 1933 |
Sefydlydd | Yoshisuke Aikawa, Den Kenjirō, William R. Gorham |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
Pencadlys | Yokohama |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | lori |
Refeniw | 11,951,169,000,000 Yen (2018) |
Incwm gweithredol | 574,760,000,000 Yen (2018) |
Cyfanswm yr asedau | 18,746,901,000,000 Yen (31 Mawrth 2018) |
Perchnogion | Renault (0.434) |
Nifer a gyflogir | 136,134 (2020) |
Rhiant-gwmni | Renault |
Is gwmni/au | Jatco |
Lle ffurfio | Yokohama |
Gwefan | https://www.nissan-global.com/, https://www.nissan.co.jp/, https://www.nissanusa.com/, https://www.nissan.de/, https://www.nissan.fr/, https://www.nissan.in/, https://www.nissan.com.br/, https://www.nissan.com.mx/, https://nissan.co.id/ |
Ers 1999, mae Nissan wedi bod yn bartner o fewn y Renault–Nissan Alliance, ar y cyd gyda'r cwmni Renault o Ffrainc. Yn 2013 roedd gan Renault 43.4% o'r cyfranddaliadau / bleidlais ac roedd gan Nissan 15% o hawliau dibleidlais yn Renault. Carlos Ghosn yw Prif Weithredwr y ddau gwmni.
Mae Nissan Motor Corporation yn gwerthu ceir o dan yr enwau Nissan, Infiniti, Datsun, a NISMO.
Yn 2013 Nissan oedd y chweched gwneuthurwr ceir mwya'n y byd, ar ôl Toyota, General Motors, Volkswagen Group, Hyundai Motor Group, a Ford.[1] Gyda Renault, y gynghrair Renault–Nissan ydy'r pedwerydd mwyaf. Nissan yw'r cwmni ceir mwyaf yn tsieina, Rwsia a Mecsico.[2]
Yn 2020, Nissan oedd gwneuthurwr cerbydau trydan (EV) mwyaf y byd, gyda gwerthiant byd-eang o fwy na 320,000 o gerbydau trydan cyfan ym mis Ebrill 2018. Nissan, hefyd sy'n gyfrifol am wneud y car trydan Nissan Leaf a lawnsiwyd yn 2000, sef y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf hyd at 2014.
Hanes
golyguSefydlu Datsun yn 1914
golyguSefydlodd Masujiro Hashimoto y Kwaishinsha Motor Car Works - yn 1911. Yn 1914, cynhyrchwyd y car cyntaf gan y cwmni, a galwyd ef yn DAT.
Acxronym oedd yr enw o enwau tri teulu a oedd wedi buddsoddi yn y cwmni:
- Kenjiro Den (田 健次郎 Den Kenjirō)
- Rokuro Aoyama (青山 禄郎 Aoyama Rokurō)
- Meitaro Takeuchi (竹内 明太郎 Takeuchi Meitarō)
Ail-fedyddiwyd y car yn Kwaishinsha Motorcar Co., Ltd. yn 1918, ac eilwaith yn 1925 i DAT Jidosha & Co., Ltd. (DAT Motorcar Co.).
Ceir trydan Nissan
golyguYmddangosodd car trydan cyntaf Nissan yn 1947; yn 2020 roedd y cwmni'n dathlu 20 mlynedd o lwyddiant y Nissan LEAF. Eu car diweddaraf, a ymddangosodd yn 2021 yw'r Nissan Ariya, sy'n 87kWh ac yn medru teithio 320 milltir ar un llond batri.
- 1947 - y Tama: 21 milltir; car dwy sedd; pellter o 40 milltir
- 1970 - 315X: brecio atgynhyrchiol (taro'r brec yn cynhyrchu trydan - mae'r dechnoleg yma'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw)
- 1983 - Mawrth EV: y car cyntaf i ddefnyddiwyd modur anwythiad (induction motor) i'w yrru
- 1995 - FEV II: talfyriad o 'Future Electric Vehicles' a'r car Nissan cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion
- 2005 - NUVU: car bychan, a rhagflas o'r Nissan LEAF; 77 milltir ar un gwefriad
- 2010 - Nissan LEAF: car cyntaf Nissan i ddibynnu'n gyfangwbwl ar drydan, gyda phellter o 109 milltir (ffigwr gan NEDC)
- 2020 - Nissan LEAF E+: 239 milltir (WLTP); 90 munud i wefru hyd at 80% o'r batri; > 340 trorym (torque)
- 2021 - Nissan Ariya; 310 milltir; gyrriant 4 olwyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "World Motor Vehicle Production – OICA correspondents survey – World Ranking of Manufacturers – Year 2012" (PDF). OICA. 2013. Cyrchwyd 15 Medi 2013.
- ↑ "Message from CEO". Nissan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-23. Cyrchwyd 29 Ionawr 2014.