Blaenoriaeth neu oruchafiaeth un grŵp neu endid dros ei gymheiriaid yw hegemoni.[1] Mae'r cysyniad yn aml yn awgrymu trefn a gynhelir gan normau a syniadau sydd yn cyfreithloni awdurdod yr un sydd yn goruchafu—yr hegemon—yn hytrach na threfn sydd yn seiliedig ar rym milwrol yn unig, ac felly mae'r rhai sydd yn israddol yn cydsynio i drefn yr hegemoni i raddau. Defnyddir y term yn enwedig yng nghyd-destun gwyddor gwleidyddiaeth a chymdeithaseg.

Hegemoni
Enghraifft o'r canlynolperthynas Edit this on Wikidata
Mathhegemony Edit this on Wikidata

Tarddai'r gair hegemoni, trwy'r Saesneg hegemony, o'r ffurf Ladin Diweddar hegemonia, a ddaw yn y bôn o'r enw Groeg ἡγεμονία (hēgemonía), sef "awdurdod, rheolaeth, goruchafiaeth wleidyddol", sydd yn perthyn i ἡγεμών (hēgemōn), sef "arweinydd". Defnyddiwyd y term yng Ngroeg yr Henfyd i ddisgrifio tra-arglwyddiaeth y dinas-wladwriaethau Athen, Sparta, a Thebai ar Wlad Groeg yn y 5g a'r 4g CC. Dyma'r ystyr a efelychir gan ddefnydd cyfoes y term ym maes cysylltiadau rhyngwladol: trefn wleidyddol neu economaidd a reolir gan un pŵer (gwladwriaeth, ymerodraeth, cynghrair milwrol neu undeb uwchgenedlaethol), naill ai ar lefel ranbarthol (pŵer mawr) neu yn rhyngwladol (uwchbwer). Yn ôl y ddamcaniaeth realaidd, mae'r uwchbwer yn esgyn i frig y system ryngwladol drwy rym milwrol ac economaidd. Mae damcaniaethwyr neo-reolaidd, er enghraifft John J. Mearsheimer, yn dadlau taw dim ond hegemonau rhanbarthol, ac nid uwchbwerau byd-eang, sydd yn y drefn ryngwladol gyfoes.

Mabwysiadwyd y term gan y Marcsydd Antonio Gramsci (1891–1937) i ddisgrifio monopoli gan un dosbarth cymdeithasol ar greu a throsglwyddo gwerthoedd cymdeithasol. Defnyddir yr ystyr honno hefyd yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol a maes economi wleidyddol ryngwladol, gan Farcswyr a damcaniaethwyr beirniadol, i ddisgrifio trefnau o'r fath yn y system ryngwladol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  hegemoni. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mehefin 2022.
  2. Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), t. 141.