Neo-realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)
Damcaniaeth ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw neo-realaeth neu realaeth adeileddol sydd yn ddatblygiad o'r traddodiad realaidd. Dyma adwaith gan ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol i'r feirniadaeth ar realaeth, yn enwedig realaeth glasurol, a wnaed gan ddamcaniaethwyr rhyddfrydol yn y 1960au a'r 1970au. Ymdrech ydyw i addasu syniadaeth realaidd glasurol at ieithwedd a methodoleg gwyddorau cymdeithas modern ac i ymateb i'r sialens a gyflwynwyd gan y rhyddfrydwyr.
Testun arloesol neo-realaeth ydy'r gyfrol Theory of International Politics (1979) gan Kenneth Waltz. Ymwrthodai â'r traddodiad realaidd clasurol gan hepgor y cyfeiriadau at natur ddynol a'r tybiaethau metaffisegol sydd yn nodweddu gwaith Hans Morgenthau. Ceisiodd Waltz ail-osod y ddamcaniaeth realaidd ar sylfaen wyddonol, ac wrth graidd hon oedd damcaniaeth systemig yn hytrach na rhydwythiaeth, gan ddadlau taw anllywodraeth y system ryngwladol sydd yn arwain at ddosbarthiad grym ac yn esbonio penderfyniadau ar y lefel ryngwladol. Testun sylw neo-reolaeth felly yw'r holl system o gysylltiadau rhyngwladol, ac nid "unedau" o gategoreiddio (er enghraifft, gwladwriaethau awtocrataidd a gwladwriaethau democrataidd).
Mae neo-reolaeth yn wahanol i realaeth glasurol mewn dwy brif ffordd. Yn gyntaf, o ran ei methodoleg, ailgyflunir y ddamcaniaeth realaidd yn nhermau dulliau modern gwyddorau cymdeithas, gan dynnu'n enwedig ar ddisgyblaeth micro-economeg. Yn ail, nodweddir neo-realaeth gan ei dealltwriaeth o lefelau dadansoddi. Cyflwynodd Waltz y cysyniad hwn ynghynt yn ei lyfr Man, the State and War (1959), a bathwyd y term "lefel dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r gyfrol honno yn y cyfnodolyn World Politics. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel o ganlyniad i anllywodraeth fyd-eang. Yn ei waith diweddarach, wrth gyfundrefnu'r ddamcaniaeth neo-realaidd, ystyriai Waltz yr hen ddadleuon realaidd ynghylch sefydliadau gwladol, diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth, a morâl cenedlaethol yn amherthnasol bellach. Lluniodd gysyniadaeth o wladwriaethau fel gweithredyddion rhesymol sydd yn gweithredu yn ôl arferion a disgwyliadau'r system ryngwladol, a bod y drefn honno yn cyfeirio gwladwriaethau at batrymau ymddygiad tebyg. Yn ganolog i hyn oll, fel meddai'r realwyr clasurol, mae grym. Dadleuai Waltz hefyd taw'r drefn ddeubegwn ydy'r cydbwysedd grym sefydlocaf posib.
Dylanwadodd gwaith Waltz yn gryf ar ddisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol a rhoddwyd er enw neo-realaeth ar ddadleuon ac dehongliadau a oedd yn adlewyrchu ei syniadaeth. Ers diwedd y 1970au, dyma un o'r prif ddamcaniaethau a ddefnyddir gan ysgolheigion i ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol, ac roedd dadleuon rhwng neo-realwyr a neo-ryddfrydwyr yn flaenllaw yn y maes yn y 1980au a'r 1990au. Mabwysiadwyd dulliau a thybiaethau Waltz gan nifer o ysgolheigion, hyd yn oed y rhai oedd yn anghytuno â'i ddamcaniaeth ynghylch cydweithio dan anllywodraeth, a elwir ysgol sefydliadaeth neo-ryddfrydol. Bu hollt rhwng y neo-realwyr eu hunain, wrth i'r realwyr "ymosodol" wyro oddi ar syniadaeth "amddiffynnol" Waltz ynghylch cydbwysedd grym rhyngwladol. Tra bo neo-realaeth amddiffynnol yn rhagweld cydbwysedd sefydlog yn y system ryngwladol wrth i wladwriaethau geisio diogelwch, dadleuai'r neo-realwyr ymosodol bod gwladwriaethau yn tueddu i gynyddu grym ar draul diogelwch, a bod hynny'n gwneud y byd yn ansefydlocach. Mae'r neo-ryddfrydwyr ac eraill yn beirniadu neo-realaeth am esgeuluso meysydd hanes, cymdeithaseg, ac athroniaeth ac am honni seiliau gwyddonol iddi, ac yn ei chyhuddo o fod yn ffurf ar rydwythiaeth ddadansoddol. Er gwaethaf, mae'n parhau yn ddamcaniaeth hynod o ddylanwadol ym maes cysylltiadau rhyngwladol, er nad yw wedi llwyr addasu at ddatblygiadau mawr yn y system ryngwladol ers cyhoeddi Theory of International Politics, megis diwedd y Rhyfel Oer a globaleiddio.