Helena Jones
Athrawes oedd Helena Anne Jones (28 Awst 1916 – 18 Gorffennaf 2018)[1][2] a oedd yn adnabyddus am fod yn un o gystadleuwyr hynaf erioed yr Eisteddfod Genedlaethol.
Helena Jones | |
---|---|
Ganwyd | 28 Awst 1916 Blaendulais |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro |
Gwobr/au | Medal yr Ymerodraeth Brydeinig |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd ym Mlaendulais lle roedd ei thad yn gweithio yn y pwll glo yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dychwelodd y teulu i ffarm yng Nghwm Camlais pan oedd yn blentyn ifanc. Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn bedair oed. Er fod ei thad yn siarad Cymraeg, nid oedd ei mam yn medru'r iaith a felly Saesneg oedd iaith yr aelwyd.[3]
Symudodd y teulu i Libanus lle mynychodd Helena ysgol y pentref ac yna Ysgol Sirol Aberhonddu cyn mynd i goleg hyfforddi athrawon yn Y Barri. Aeth i weithio mewn ysgol yng Nghwm Elan, ysgol a gefnogwyd gan y Birmingham Corporation, fel athrawes gyda profiad cerddorol i baratoi'r plant ar gyfer ei cyngerdd blynyddol i'w berfformio gan swyddogion y ddinas.
Yn y cyfnod yma cyfarfu ei gŵr Perceval (Percy) Jones a cawsant ddau ferch, Elaine a Meryl. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i fferm ger Pontsenni, ac aeth Helena i ddysgu yn ysgol gynradd Trallong.
Yn y Trallong sefydlodd Helena gyngerdd a arweiniodd at sefydlu Eisteddfod y Trallong yn 1956. Cynhelir yr eisteddfod bob mis Tachwedd a parhaodd Helena fel is-lywydd yr ŵyl.
Roedd yn gyfrifol am hyfforddi nifer fawr o blant i ganu a chystadlu mewn eisteddfodau lleol ac Eisteddfod yr Urdd, gan gynnwys y canwr Rhydian Roberts. Pan oedd yn 90 oed aeth ati i ddysgu Cymraeg yn Sefydliad y Merched yn Aberhonddu cyn gwneud arholiad yn y Gymraeg.[4]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 cystadlodd yn y llefaru unigol dros 16 oed gyda'r darn A gymri di Gymru?. Roedd hi'n 99 oed ar y pryd, ac ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 100.[5]
Anrhydeddau
golyguYn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 fe'i urddwyd i Orsedd y Beirdd gyda'r wisg las. Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2018, derbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, y BEM, am ei gwasanaeth i bobl ifanc a'r gymuned.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Seren Steddfod y Fenni yn 100 , BBC Cymru Fyw, 27 Awst 2016. Cyrchwyd ar 21 Gorffennaf 2018.
- ↑ Helena Anne JONES : Obituary. South Wales Echo (24 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2018.
- ↑ Double celebration for Maes star Helena (en) , The Brecon & Radnor Express, 14 Awst 2016. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2018.
- ↑ Un o gystadleuwyr hynaf yr Eisteddfod, Helena Jones wedi marw , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2018.
- ↑ Cystadleuydd hyna’r Eisteddfod? , Golwg360, 4 Awst 2016. Cyrchwyd ar 20 Gorffennaf 2018.