Helynt Brewer Spinks

(Ailgyfeiriad o Helynt Brewer Spinks Ltd.)

Dadl ynglŷn â hawl y Cymry Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle oedd helynt Brewer Spinks. Gwrthodai cyfarwyddwr y ffatri, Brewer Spinks, i'r gweithwyr siarad Cymraeg yn y ffatri yn Nhanygrisiau ym Mehefin 1965.[1] Ildiodd Spinks yn y diwedd yn dilyn gwrthdystiadau ac adroddiadau am yr helynt yn y wasg a'r cyfryngau. Dyma un o brotestiadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Amlygodd yr helynt le israddol y Gymraeg yng Nghymru. Arweiniodd y digwyddiad at sefydlu Undeb y Gymraeg gan John Lasarus Williams.

Helynt Brewer Spinks

Cafodd y ffatri fechan, yn hen ysgol Tanygrisiau, ei chymryd drosodd yng ngwanwyn 1965, tri mis cyn yr helynt. Rhoddodd y perchnogion newydd o ganolbarth Lloegr, Whitewell & Hailey Ltd., reolaeth y ffatri yn nwylo Brewer Spinks, a symudodd i'r Blaenau o Loegr yn unswydd. Ddechrau Mehefin 1965 gorchymynodd Spinks nad oedd neb o'r gweithwyr - Cymry Cymraeg lleol i gyd - i siarad Cymraeg yn y ffatri a bod disgwyl iddynt i gyd arwyddo cytundeb yn cytuno â hynny er mwyn parhau i weithio yno. Diswyddwyd dau o'r gweithwyr: Elmer a Neville Jones gan iddynt wrthod cydymffurfio â'r gorchymyn; torrodd tymestl ar unwaith, yn lleol a ledled Cymru, gyda nifer fawr o bobl yn protestio ac yn comdemnio Spinks a'r cwmni.

Cafodd y gweithwyr gefnogaeth y pentrefwyr a sawl gwleidydd. Cefnogodd Tom Jones, Shotton, trefnydd Gogledd Cymru Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Thrafnidiaeth (TGWU) y gweithwyr. Meddai:

"Y ffaith ydi bod y peth yn gwbwl warthus ac mae'r dyn yn chwarae efo deinameit."[2]

Anerchwyd y dorf ar ran y Gymdeithas gan Owain Owain, ysgrifennydd y gymdeithas. Y noson honno, yn ôl John Lasarus Williams y creodd ymgyrch newydd: yr ymgyrch i 'beintio'r byd yn wyrdd': 'Rhybuddiodd Owain, os na cheid penderfyniad cryf y byddai ef, wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r tŷ gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau Saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor.' (Crwsâd Drwy Berswâd, John Lasarus Williams, 2003)

Helynt Brewer Spinks yn niwylliant poblogaidd

golygu

Recordiodd y band Cymreig Tystion record o'r enw Brewer Spinks EP yn 1998.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 93
  2. Crwsâd trwy Berswâd, t. 10.
  3. https://www.discogs.com/Tystion-Brewer-Spinks-EP/release/2217159

Darllen pellach

golygu

Ceir pennod ar yr helynt yng nghyfrol John Lasarus Williams, Crwsâd trwy Berswâd. Hanes Undeb y Gymraeg a Sioe Gymraeg Porthaethwy (2003, Llangefni).