Agor y brif ddewislen

Mudiad iaith Cymraeg a sefydlwyd yn 1965 yn dilyn helynt Brewer Spinks yw Undeb y Gymraeg.

Y prif symbyliad i sefydlu'r Undeb oedd yr helynt am benderfyniad cwmni yn nwylo perchnogion Seisnig yn Nhanygrisiau i wahardd ei weithwyr rhag siarad Cymraeg yng ngwanwyn 1965. Trefnwyd sawl cyfarfod a gwrthdystiad yn erbyn y cwmni, ac o'r cnewyllyn hwnnw y tyfodd Undeb y Gymraeg, gyda John Lasarus Williams ac Owain Owain yn chwarae rhan blaenllaw ynddo.

Bwriad yr Undeb oedd "dangos sut i wneud pethau a gweithredu" yn hytrach na thrafod dirywiad y Gymraeg. Rhoddwyd pwyslais mawr ar bethau bach ymarferol i gael mwy o amlygrwydd i'r iaith fel pwyso ar bobl i gael arwyddion siopau yn y Gymraeg (a nifer o'r Cymry eu hunain yn ddigon difater) a chynnal gweithgareddau poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, e.e. Sioe Gymraeg Porthaethwy.

Roedd nifer o'r aelodau yn bobl blaenllaw yn eu cymunedau, a'r rhan fwyaf yn byw yng ngogledd-orllewin Cymru. Ni lwyddodd yr Undeb i ehangu llawer y tu allan i ffiniau'r hen Wynedd). Yn eu plith yr roedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones, Ifan Gruffydd (awdur Y Gŵr o Baradwys), Cyril Hughes, Owain Owain, Gwyn Thomas ac eraill.

Darllen pellachGolygu

John Lasarus Williams, Crwsâd trwy Berswâd. Hanes Undeb y Gymraeg a Sioe Gymraeg Porthaethwy (2003, Llangefni). ISBN 0-9525267-3-5

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.