Hen Saesneg

iaith germaneg orllewinol
(Ailgyfeiriad o Hen Sacsoneg)

Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith Saesneg yw Hen Saesneg (Ænglisc, Anglisc, neu Englisc) neu Eingl-Sacsoneg[1][2] a siaredid yn Lloegr ac yn ne a dwyrain yr Alban yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar.

Tudalen flaen Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson.

Cafodd y iaith ei gludo i Brydain gan ymfudwyr Eingl-Sacsonaidd tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r Goncwest Normanaidd yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr Eingl-Normaneg. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn Saesneg Canol.

Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau Germanaidd a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y Sacsoniaid a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith Frythoneg a thafodiaith Lladin Prydeinig yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg[3] er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Diweddar yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i wladychiad gan y Llychlynwyr o'r 9g ymlaen.

Un o'r ieithoedd Germanaidd Gorllewinol ydy Hen Saesneg, sy'n perthyn agosaf at Hen Ffriseg ac Hen Sacsoneg. Megis yr hen ieithoedd Germanaidd eraill, mae'n wahanol iawn i Saesneg Diweddar ac yn anodd i siaradwyr Saesneg Diweddar ei deall heb ei hastudio. Mae gramadeg Hen Saesneg yn debyg i ramadeg Almaeneg Diweddar: mae sawl ffurf a therfyniad ffurfdroadol i enwau, ansoddeiriau, rhagenwau a berfau, ac mae trefn y geiriau yn llawer mwy rhydd.[3] Ysgrifennwyd yr arysgrifau hynaf yn Hen Saesneg mewn llythrennau rwnig, ond tua'r 9g ymlaen disodlwyd y system honno gan ffurf ar yr wyddor Ladin.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Eingl-Sacsoneg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Mawrth 2019.
  2. Crystal, David (2003). The Cambridge Encyclopedia of the English Language. Cambridge University Press. ISBN 0-521-53033-4.
  3. 3.0 3.1 Baugh, Albert (1951). A History of the English Language. London: Routledge & Kegan Paul. tt. 60–83, 110–130 (Scandinavian influence).