Hendrik Frensch Verwoerd

Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Brif Weinidog y wlad o 1958 hyd 1966 oedd Hendrik Frensch Verwoerd (8 Medi 19016 Medi 1966).

Hendrik Frensch Verwoerd
Ganwyd8 Medi 1901 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd, aelod o gyfadran Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog De Affrica Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Stellenbosch Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Genedlaethol Edit this on Wikidata
PriodBetsie Verwoerd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Amsterdam, ond ymfudodd i Dde Affrica gyda'i rieni pan oedd yn ddwy oed. Astudiodd yn Mhrifysgolion Hamburg, Leipzig a Berlin. O 1937 hyd 1943 bu'n olygydd y newyddiadur Die Transvaler. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cefnogai yr Almaen.

Yn 1950 daeth yn weinidog yn llywodraeth Daniel François Malan, ac yn 1958 olynodd Johannes Strijdom fel Prif Weinidog. Roedd yn gefnogwr cryf i Apartheid. Yn 1961 troes Verwoerd Dde Affrica yn weriniaeth a rhoddodd y gorau i fod yn aelod o'r Gymanwlad. Ar 6 Medi 1966, roedd Vewoerd newydd gymeryd ei sedd yn y senedd pan drywanwyd ef gan negesydd seneddol o'r enw Dimitri Tsafendas, a bu farw yn fuan wedyn.