Henry Acland
Roedd Syr Henry Wentworth Dyke Acland, Barwnig 1af, KCB FRS (23 Awst 1815 – 16 Hydref 1900) yn feddyg ac addysgwr Seisnig.[1]
Henry Acland | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1815 Killerton |
Bu farw | 16 Hydref 1900 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg |
Swydd | meddyg, Regius Professor of Medicine, llywydd corfforaeth, meddyg |
Tad | Sir Thomas Dyke Acland, 10th Baronet |
Mam | Lydia Hoare |
Priod | Sarah Acland |
Plant | Alfred Dyke Acland, Theodore Dyke Acland, Reginald Acland, Sarah Angelina Acland, Sir William Acland, 2nd Baronet, Henry Dyke Acland, Herbert Dyke Acland, Francis Edward Dyke Acland |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cydymaith Urdd y Baddon, barwnig, Araith Harveian |
Cefndir
golyguGanwyd Henry Acland yn Killerton, Exeter, yn bedwerydd mab Syr Thomas Acland a Lydia Elizabeth Hoare, ac addysgwyd ef yn Harrow ac yn Eglwys Crist, Rhydychen. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen ym 1840, ac yna astudiodd feddygaeth yn Llundain a Chaeredin.[2]
Gyrfa
golyguGan ddychwelyd i Rydychen, fe'i penodwyd yn ddarllenydd Lee mewn anatomeg yn Eglwys Crist ym 1845, fe'i gwnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1847, ac ym 1851 fe'i penodwyd yn llyfrgellydd Radcliffe a meddyg Ysbyty Radcliffe.
Saith mlynedd yn ddiweddarach daeth yn Athro Meddygaeth Regius, swydd a gadwodd hyd 1894. Roedd hefyd yn guradur orielau'r brifysgol ac yn Llyfrgell Bodleian, ac o 1858 i 1887 bu'n cynrychioli ei brifysgol ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac o hynny gwasanaethodd fel llywydd rhwng 1874 a 1887.[3]
Ym 1860 aeth gydag Albert, Tywysog Cymru, fel ei feddyg personol ar ei daith o amgylch Canada a'r Unol Daleithiau.
Cymerodd Acland ran flaenllaw yn adfywiad ysgol feddygol Rhydychen ac wrth gyflwyno'r astudiaeth o wyddoniaeth naturiol i'r brifysgol. Fel darllenydd Lee dechreuodd ffurfio casgliad o baratoadau anatomegol a ffisiolegol ar gynllun John Hunter. Defnyddiodd ei gasgliad i sefydlu Amgueddfa Prifysgol Rhydychen, a agorwyd ym 1861. Bwriad yr amgueddfa oedd bod yn ganolfan ar gyfer annog astudio gwyddoniaeth, yn enwedig mewn perthynas â meddygaeth. Ar y cyd â'r Deon Liddell, chwyldroid yr astudiaeth o gelf ac archeoleg. Trwy ei ymdrechion ffynnodd astudiaethau celf ac archeoleg yn y brifysgol am y tro cyntaf.
Roedd gan Acland ddiddordeb hefyd mewn cwestiynau iechyd cyhoeddus. Gwasanaethodd ar y Comisiwn Brenhinol ar gyfreithiau glanweithdra yng Nghymru a Lloegr ym 1869. Cyhoeddodd astudiaeth o'r achosion o golera yn Rhydychen ym 1854, ynghyd â phamffledi amrywiol ar faterion glanweithdra.
Gwobrau
golyguPenodwyd Acland yn Gydymaith Urdd y Baddon (CB) ym 1883, a dyrchafwyd ef yn Farchog Cadlywydd (KCB) ym 1884. Cafodd ei greu yn farwnig ym 1890.
Teulu
golyguPriododd â Sarah Cotton, merch William Cotton a Sarah Lane, ar 14 Gorffennaf 1846. Bu iddynt saith mab a merch:
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Broad Street, Rhydychen yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Holywell Rhydychen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Acland, Sir Henry Wentworth, first baronet (1815–1900), physician". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/62. Cyrchwyd 2020-10-17.
- ↑ Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
- ↑ "Sir Henry Wentworth Dyke Acland | RCP Museum". history.rcplondon.ac.uk. Cyrchwyd 2020-10-17.