Henry Brinley Richards

cyfansoddwr a aned yn 1819

Roedd Henry Brinley Richards (13 Tachwedd 1817[nb 1] - 2 Mai 1885) yn gyfansoddwr, pianydd ac yn athro cerdd Gymreig.[2]

Henry Brinley Richards
Ganwyd13 Tachwedd 1819 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1885 Edit this on Wikidata
Kensington, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, athro cerdd, pianydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cefndir

golygu

Ganwyd Richards yng Nghaerfyrddin yn blentyn i Henry Richards, organydd eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin ac Elizabeth (née Brinley).[3]

Addysg

golygu

Cafodd Brinley Richards addysg dda gan ei rieni yn ysgol ramadeg y dref gan obeithio iddo gael ei hyfforddi'n feddyg. Ar ôl gorffen yn yr ysgol cafodd ei osod fel prentis gyda meddyg yng Nghaerfyrddin.[4] Wedi dysgu canu'r piano a dechrau cyfansoddi'n ifanc dechreuodd Brinley chware'n gyhoeddus. Daeth i amlygrwydd fel cyfansoddwr addawol pan enillodd y wobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Gwent a Morgannwg a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1834. Cyfres o amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn" oedd y darn buddugol.[5]

Daeth trobwynt ar yrfa Richards pan glywodd 4ydd Dug Newcastle-under-Lyne ef yn canu'r piano. Gwnaeth y fath argraff ar y Dug, nes peri iddo dalu am wersi piano i'r bachgen yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Rhoddodd y gorau i'w yrfa feddygol gan droi at addysg gerddorol am weddill ei oes. Enillodd Richards Ysgoloriaeth y Brenin yn yr Academi ddwywaith—y tro cyntaf ym 1834, ac eildro ym 1837. Wedi gorffen yn yr Academi Frenhinol aeth i Baris am hyfforddiant pellach. Yno, daeth yn gyfaill oes i'r pianydd a'r cyfansoddwr o Wlad Pwyl Frédéric Chopin[6]

Ar ddiwedd ei gyfnod dan hyfforddiant ym Mharis dychwelodd Richards i Lundain a'r Academi Frenhinol, lle fu'n gwasanaethu fel athro piano. Yn ddiweddarach bu'n gyfarwyddwr yr adran biano. Richards fu'n gyfrifol am gychwyn cyfundrefn arholiadau rhanbarthol yr academi, a bu'n hyrwyddo'r arholiadau gyda brwdfrydedd mawr yng Nghymru. Ym 1881 fe'i penodwyd yn arolygwr arholiadau'r Academi.

Yn ogystal â dysgu parhaodd Richards fel cyfansoddwr toreithiog a pherfformiwr rheolaidd ar lwyfannau ynysoedd Prydain a thrwy Ewrop gyfan. Er nad oedd yn Gymro Cymraeg roedd yn gefnogwr brwd i'r Eisteddfod a'r cyfleoedd roedd yn rhoi i gerddorion Cymreig i arddangos eu crefft. Gan nad oedd rheol iaith yn yr eisteddfodau'r adeg honno, bu galw mawr arno i feirniadu.

Ym 1862 enillodd Richards wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon am ysgrifennu alaw i gerdd Ceiriog Ar D'wysog Gwlad y Bryniau (sydd mwy adnabyddus dan enw ei chyfieithiad Saesneg gan George Lindley God Bless the Prince of Wales.) Cannwyd y gan am y tro cyntaf ym mhriodas Albert Edward, Tywysog Cymru a'r Dywysoges Alexandra o Ddenmarc.[7]

Un o ddiddordebau mawr Richards oedd cofnodi alwon werin draddodiadol Cymru. Cyhoeddodd gyfrol o'i gasgliad ym 1873 The Songs of Wales-Caneuon Cymru. Cafodd nifer o enwogion i ysgrifennu geiriau Cymraeg a Saesneg i'r alawon heb eiriau traddodiadol yn gysylltiedig â nhw gan gynnwys Syr Walter Scott, Felicia Hemans ac Alfred Perceval Graves yn Saesneg a Ceiriog, Ieuan Ddu[8], Mynyddog, a Tudno, yn y Gymraeg.[9]

Ym 1854 priododd Harriett Banting yn Kensington, Llundain cawsant fab a merch..

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yn Llundain o lid ar yr ysgyfaint yn 67 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Brompton, Llundain.

Gweithiau cerddorol

golygu
  • Ar D'wysog Gwlad y Bryniau - God Bless the Prince of Wales
  • Let the hills resound
  • Cenwch udgorn yn Seion
  • Songs of Wales - Caneuon Cymru (1873)

Nodiadau

golygu
  1. Mae nifer o ffynonellau yn rhoi blwyddyn ei enedigaeth fel 1819. 1817 sy'n gywir fel sy'n cael ei brofi gan gofnod o'i fedydd yn eglwys St Pedr Caerfyrddin ar 10 Rhagfyr 1817. Yn ôl rheolau'r Academi Frenhinol ar y pryd nid oedd disgyblion newydd dros 15 yn cael eu derbyn. Roedd Brinley yn 17. Pennaeth llywodraethwyr yr Academi Frenhinol oedd Arglwydd Burghersh, cyfaill agos i Ddug Newcastle noddwr Brinley Richards. Mae'n debyg bod y ddau bendefig wedi ffugio ei flwyddyn geni ar ffurflenni cofrestru'r Academi[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Heward Rees, A. J.—Henry Brinley Richards (1817-1885): Propagandydd dros Gerddoriaeth Gymreig o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Hanes cerddoriaeth Cymru, Cyf 2, 1997, tt 193-212
  2. "RICHARDS, HENRY BRINLEY (1819 - 1885), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-08-16.
  3. "Richards, Henry Brinley [pseud. Carl Luini] (1819–1885), pianist and composer". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/23531. Cyrchwyd 2023-08-16.
  4. "MARWOLAETH MR BRINLEY RICHARDS - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1885-05-13. Cyrchwyd 2023-08-16.
  5. "Y DIWEDDAR BRINLEY RICHARDS - Y Drych". Mather Jones. 1885-05-14. Cyrchwyd 2023-08-16.
  6. Lewis, Idris (1945). Cerddoriaeth yng Nghymru. Cyfres Pobun. Lerpwl: Gwasg y Brython. tt. 22–23.
  7. "AR DWYSOG GWLAD Y BRYNIAU - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1902-04-30. Cyrchwyd 2023-08-16.
  8. "THOMAS, JOHN ('Ieuan Ddu'; 1795 - 1871) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-08-16.
  9. "The Songs of Wales (Richards, Brinley) - IMSLP". imslp.org. Cyrchwyd 2023-08-16.