Thomas Jones (Tudno)
Llenor, bardd, newyddiadurwr ac offeiriad o Gymru oedd Thomas Jones neu Tudno (28 Ebrill 1844 – 8 Mai 1895), a aned yn Llandudno, yn yr hen Sir Gaernarfon (Conwy heddiw).
Thomas Jones | |
---|---|
Ffugenw | Tudno |
Ganwyd | 28 Ebrill 1844 Llandudno |
Bu farw | 18 Mai 1895 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, newyddiadurwr |
- Gweler hefyd Tudno (gwahaniaethu)
Bywgraffiad
golyguEi athrawon barddol oedd Creuddynfab, Richard Parry (Gwalchmai) ac Elis Wyn o Wyrfai.[1]
Yn ystod ei yrfa fel newyddiadurwr gofalodd am y Llandudno Directory lleol ac yn ddiweddarach ymunodd â bwrdd golygyddol y Carnarvon and Denbigh Herald ac ymsefydlu yng Nghaernarfon. Symudodd i weithio ar y cylchgrawn Y Llais ym Mangor a daeth yn adnabyddus am ei ysgrifau doniol dan y pennawd Dyddlyfr Dafydd Davies.[1]
Aeth yn offeiriad yn 1883 a gwasanaethai mewn sawl tref ledled gogledd Cymru, gan gynnwys Llanrwst. Roedd yn eisteddfodwr mawr ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 am ei awdl "Y Llafurwr".[1] Cyfieithodd waith Thomas Gray a chyfansoddodd gerdd arwrol i Owain Glyndŵr. Dyma ddarn ohono:
Wladgarwyr dewr dadweiniwch gledd --
Ymladdwch wrth ei garn;
A gwaed eich bron cysegrwch fedd
Cyn bod i Drais yn sarn.[1]
Bu farw yn ganol oed yn 1895, tra yn ei Landudno annwyl. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Tudno, ar lethrau'r Gogarth uwchben y môr.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1897). Casgliad o'i gerddi sy'n cynnwys bywgraffiad gan ei hen gyfaill Rowlands (Dewi Môn).