Henry George Allen

Roedd Henry George Allen (29 Gorffennaf 181520 Tachwedd 1908) yn fargyfreithiwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro o 1880 i 1885 a Phenfro a Hwlffordd o 1885 i 1886.

Henry George Allen
Ganwyd29 Gorffennaf 1815 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1908 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadJohn Hensleigh Allen Edit this on Wikidata
MamGertrude Seymour Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Roedd Henry George Allen yn perthyn i deulu hynafol Allen o'r Creseli, Sir Benfro, roedd y teulu yn olrhain ei hach yn ôl i'r Frenin Iorwerth III. Roedd Henry George yn ail fab i John Hensleigh Allen a'r Ledi Gertrude Seymour, merch yr Arglwydd Robert Seymour. Fe fu John Hensleigh Allen yn AS Penfro o 1818 i 1826 a bu taid mamol Henry, yr Arglwydd Seymour, yn AS Sir Gaerfyrddin o 1807 i 1820.

Derbyniodd Allen ei addysg yn Ysgol Rugby ac yn Eglwys Crist, Rhydychen, gan ennill gradd BA ym 1837 ac MA yn 1840[1]

Cafodd Allen ei alw i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1841 a chafodd ei godi'n Gwnsler y Frenhines ym 1880 (Cwnsler y Brenin o 1901) ac yn Feinciwr ym 1881. Fe fu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Deheudir Cymru. Gwasanaethodd fel Cofiadur Andover yn swydd Caint ac yn Gadeirydd Llys Chwarter Sir Benfro, roedd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Sir Benfro[2].

Gyrfa wleidyddol

golygu

Etholwyd Allen yn aelod seneddol dros Benfro ym 1880, gan dal y sedd hyd nes ei ddiddymu dan y Deddf Ailddosbarthu Seddi 1885. Yn etholiad cyffredinol 1885 cafodd ei ethol yn AS dros etholaeth Penfro a Hwlffordd. Penderfynodd beidio amddiffyn ei sedd yn etholiad 1886 o herwydd ei anghytundeb a pholisïau'r Blaid Ryddfrydol parthed ymreolaeth i'r Iwerddon a Datgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru.[3]

Pan grëwyd Cynghorau Sir yng Nghymru ym 1888 etholwyd Allen fel cynghorydd ward Caeriw ar gyngor newydd Sir Benfro gan gael ei ethol yn gadeirydd cyntaf y cyngor.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Paskeston, ar 20 Tachwedd 1908 yn 93 mlwydd oed, roedd yn dibriod. Claddwyd ei wedddillion ym mynwent Eglwys Caeriw.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cardiff Times 28 Tachwedd 1908, Mr H G Allen KC [1] adalwyd 14 Mawrth 2015
  2. Tenby Observer, 17 Rhagfyr 1885, H G Allen Esq MP [2] adalwyd 14 Mawrth 2015
  3. Weekly Mail 28 Tachwedd 1908 Mr H G Allen Dead [3] adalwyd 14 Mawrth 2015
  4. Cardiff Times 5 Rhagfyr 1908 The Late Mr H G Allen KC [4] adalwyd 14 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward James Reed
Aelod Seneddol Penfro
18801885
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth Newydd
Penfro a Hwlffordd
18851886
Olynydd:
Richard Charles Mayne