Edward James Reed
Roedd Syr Edward James Reed KCB, FRS (20 Medi 1830 – 30 Tachwedd 1906) yn bensaer llynges, yn awdur, perchennog rheilffyrdd a gwleidydd Rhyddfrydol a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1874 i 1906.[1]
Edward James Reed | |
---|---|
Ganwyd | 20 Medi 1830 Sheerness |
Bu farw | 30 Tachwedd 1906 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd, gwleidydd, pensaer morol |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Edward James Reed yn Sheerness, Swydd Caint yn fab i John Reed, swyddog dociau ag Elizabeth (né Arney) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Fathemateg ac Adeiledd Llynges, Portsmouth [2]. Priododd Rosetta Barnaby ym 1851.
Gyrfa
golyguYm 1852 dechreuodd ei yrfa ym maes cynllunio morwrol yn nociau Sheerness, ond fe ymddiswyddodd wedi anghydfod gyda'r rheolwr; wedyn fu'n gweithio ym maes newyddiaduraeth gan gynnwys gweithio fel golygydd y Mechanic's Magazine. Ym 1860 cafodd ei benodi yn ysgrifennydd cyntaf The Royal Institute of Naval Architects, sefydliad ar gyfer pobl a oedd yn ymwneud â dylunio, adeiladu, atgyweirio a gweithredu llongau, cychod a strwythurau morol.
Ym 1863 cafodd ei benodi yn brif adeiladydd llongau'r llynges, yn ystod ei gyfnod yn y swydd gwelwyd y trawsnewid terfynol o adeiladu llongau ryfel o bren i rai o haearn. Ymysg y llongau rhyfel nodedig a adeiladwyd o dan ei gyfarwyddyd oedd:
- HMS Bellerophon ym 1865
- HMS Monarch ym 1868
- HMS Devastation ym 1871
Ymddiswyddodd ym 1870 ar ôl i'r llynges comisiynu'r llong HMS Captain heb ymgynghori ag ef na'i adran ond barhaodd i gynllunio llongau ryfel i nifer o wledydd eraill gan gynnwys Brasil, yr Almaen, Chile a Japan.[3]
Yn ogystal â'i ddiddordeb masnachol yn y busnes llongau yr oedd hefyd yn un o brif gyfranddalwyr yng nghwmnïau'r rheilffyrdd yn Florida, UDA [4]
Gyrfa wleidyddol
golyguFe safodd Reed ei etholiad seneddol cyntaf, heb lwyddiant, mewn isetholiad yn Hull ym 1873. Yn etholiad cyffredinol 1874 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Penfro.
Yn yr Etholiad Cyffredinol 1880 safodd yn llwyddiannus yn etholaeth Caerdydd. Ym 1886 fe'i penodwyd yn Arglwydd y Trysorlys (sef un o chwipiaid y llywodraeth) yn nhrydedd weinidogaeth Gladstone. Yn dilyn ei benodiad cyhoeddodd y Western Mail erthygl yn awgrymu bod Reed wedi cael swydd cyflogedig barhaol gan Gladstone fel rhyw fath o lwgrwobr; erlynwyd y papur yn llwyddiannus mewn achos enllib gan Reed[5]
Collodd Reed ei sedd seneddol ym 1895, ond fe lwyddodd i'w adennill ym 1900. Ym 1905 cyhoeddodd ei fwriad i ymddeol o'r senedd yn yr etholiad nesaf (a gynhaliwyd ym 1906).
Anrhydeddau
golyguCafodd Reed ei benodi'n Gydymaith Urdd y Baddon (CB) ym 1868, gan gael ei ddyrchafu'n Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ym 1880. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1876. Derbyniodd hefyd nifer o anrhydeddau gan wledydd eraill megis Rwsia, Awstria Twrci ac eraill
Marwolaeth
golyguBu farw Reed o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Y Strand, Llundain ym mis Tachwedd 1906. Fe'i claddwyd ym Mynwent Putney Vale ar 4 Rhagfyr.[6]
Cyhoeddiadau
golygu- Shipbuilding in Iron and Steel (1868)
- Our Ironclad Ships, their Qualities, Performance and Cost (1869)
- Japan: its History, Traditions, and Religions Two volumes. London, J. Murray (1880)
- Treatise on the stability of ships (1884)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cardiff Times, 17 Ebrill 1909, Tribute to Sir E J Reed [1] adalwyd 14 mawrth 2015
- ↑ Cardiff Times, 16 Gorffennaf 1892 The Welsh Members [2] adalwyd 14 mawrth 2015
- ↑ Cambrian 7 Rhagfyr 1906 Sir Edward Reed [3] adalwyd 16 Mawrth 2015
- ↑ Gregg Turner, A Short History of Florida Railroads (Charleston, De Carolina, 2003), tt.51–53
- ↑ Weekly Mail 4 Rhagfyr 1886 The Action for Libel by Sir E J Reed Mp against the Western Mail [4] adalwyd 16 Mawrth 2015
- ↑ Graces Guide to British Industrial History Sir Edward James Reed [5] adalwyd 16 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Meyrick |
Aelod Seneddol Penfro 1874 – 1880 |
Olynydd: Henry George Allen |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: James Crichton-Stuart |
Aelod Seneddol Caerdydd 1880 – 1895 |
Olynydd: James Mackenzie Maclean |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: James Mackenzie Maclean |
Aelod Seneddol Caerdydd 1900 – 1906 |
Olynydd: Ivor Churchill Guest |