Henry Howard, Iarll Surrey
Bardd o Loegr oedd Henry Howard, Iarll Surrey (1517 – 13 Ionawr 1547).
Henry Howard, Iarll Surrey | |
---|---|
Ganwyd | 1516 Swydd Hertford |
Bu farw | 19 Ionawr 1547 Tower Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | bardd, llenor, gwleidydd, pendefig |
Tad | Thomas Howard |
Mam | Elizabeth Howard |
Priod | Frances Howard |
Plant | Jane Neville, Thomas Howard, 4ydd Dug Norfolk, Lady Katherine Howard, Henry Howard, Lady Margaret Howard |
Llinach | Howard family |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Bywgraffiad
golyguGanwyd yn Hunsdon, Swydd Hertford, yn fab i'r Arglwydd Thomas Howard. Pryd ddaeth ei dad yn Ddug Norfolk yn 1524, derbyniodd Henry y teitl cwrteisi Iarll Surrey. Bu'n byw yn Windsor o 1530 i 1532 gyda Henry FitzRoy, mab anghyfreithlon y Brenin Harri VIII a'i ordderch Elizabeth Blount, a oedd dan warchodaeth Thomas Howard. Yn 1532 priododd Henry â'r Foneddiges Frances de Vere (tua 1517–77), merch John de Vere, 15fed Iarll Rhydychen, er na chydbreswyliasent nes 1535. [1]
Gwasanaethodd yn filwr yn erbyn yr Albanwyr yn 1542 ac yn erbyn y Ffrancod. Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Boulogne yn 1545. Yn Rhagfyr 1546 cafodd ei garcharu ar gyhuddiad o chwarteru arfbais Edward Gyffeswr. Cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddedfrydu i'r gosb eithaf. Cafodd ei dorfynyglu ym Mryn y Tŵr, Llundain, ar 13 Ionawr 1547, yn 30 oed. Yn ôl pob sôn, efe oedd yr unigolyn olaf i'w ddienyddio yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri.
Barddoniaeth
golyguHoward a'i gyfaill Thomas Wyatt oedd y Saeson cyntaf i sonedu yn eu mamiaith, dan ddylanwad y soned Betrarchaidd. Dyfeisiodd y patrwm odli Saesneg ar y soned: tair adran o bedair llinell yr un, a chwpled i'w chloi. Howard hefyd oedd y cyntaf i gyfansoddi cerddi moel yn y Saesneg, hynny yw mesur cyson megis y pumban iambig ond yn ddiodl. Cyfieithodd ddau o lyfrau'r Aenid gan Fyrsil ar fesur moel, a gyhoeddwyd dan y teitl Certain Bokes of Virgiles Aenaeis yn 1557.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Henry Howard, Earl of Surrey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2019.