Bardd, llyswr, a diplomydd o Sais oedd Syr Thomas Wyatt (150311 Hydref 1542) sy'n nodedig am gyflwyno'r soned Eidalaidd, y terza rima, a'r rondeau i farddoniaeth Saesneg Lloegr.

Thomas Wyatt
Ganwyd1503 Edit this on Wikidata
Maidstone Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1542 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, diplomydd, ysgrifennwr, gwleidydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1542-44 Parliament, ambassador of the Kingdom of England to the Kingdom of Spain Edit this on Wikidata
Arddullsoned Edit this on Wikidata
TadHenry Wyatt Edit this on Wikidata
MamAnne Skinner Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Brooke Edit this on Wikidata
PartnerElizabeth Darrell Edit this on Wikidata
PlantFrances Wyatt, Thomas Wyatt Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar, addysg a theulu golygu

Ganwyd Thomas Wyatt yn 1503 yng Nghastell Allington, Caint, yn fab hynaf i'r llyswr Henry Wyatt a'i wraig Anne. Yn ddiweddarach cafodd ei dad, a oedd yn hanu o Swydd Efrog, ei urddo'n farchog.

Aeth Thomas i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn 1515, a derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau yn 1518 a'i radd meistr yn y celfyddydau yn 1522. Priododd ag Elizabeth Brooke (1503–60), merch i Thomas Brooke, 8fed Barwn Cobham, yn 1520. Cawsant ddau blentyn: Thomas (1521–54) a Bess. Nid oedd Wyatt yn hapus â'i briodas, yn bosib oherwydd godineb ei wraig, a buont yn byw ar wahân i'w gilydd nes iddynt ailgymod yn 1541.[1]

Ei fywyd yn y llys brenhinol golygu

Ymunodd â llys y Brenin Harri VIII, a chafodd ei edmygu am degwch ei bryd, ei ddoniau cerddorol ac ieithyddol, a'i fedr wrth ddwyn arfau. Tua 1516 fe'i penodwyd yn weinydd arbennig i'r brenin, ac yn 1524 fe ddaeth yn geidwad y tlysau brenhinol.[1]

Gyrfa ddiplomyddol a gwleidyddol golygu

Cychwynnodd Wyatt ar ei yrfa ddiplomyddol yn 1526–27 pryd aeth i Ffrainc ac i'r Babaeth. Ar ei deithiau, daeth yn gyfarwydd â barddoniaeth y Ffrancod a'r Eidalwyr. Gwasanaethodd yn Uchel Farsial Calais o 1528 i 1530. Cafodd ei ddanfon ar sawl cenhadaeth ddiplomyddol yn y cyfnod 1530–36.[1]

Perthynas ag Anne Boleyn a'i garchariad golygu

Trwy gysylltiadau Syr Henry Wyatt â Syr Thomas Boleyn, mae'n debyg yr oedd Thomas yn gyfarwydd â merch Syr Thomas, Anne Boleyn, yr hon oedd yn ail wraig i Harri VIII ac yn frenhines Lloegr o 1533 i 1536. Dywed i Thomas ac Anne gael perthynas rywiol, ac am y rheswm honno fe'i carcharwyd ef yn Nhŵr Llundain am fis yn 1536. Fe lwyddodd i osgoi'r un dynged ag Anne, a gafodd ei dienyddio am deyrnfradwriaeth. Mae'n debyg i Wyatt gael ei ryddhau o'r carchar trwy ddylanwad ei gyfaill Thomas Cromwell, Canghellor y Trysorlys, a fe'i adferwyd yn ffafr y brenin. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1537, a'i ddanfon ar lysgenhadaeth i'r Ymerawdwr Siarl V yn Sbaen. Dychwelodd i Lundain ym Mai 1539, ac yn ddiweddarach aeth yn ddiplomydd i Ffrainc a Fflandrys.[1]

Diwedd ei oes golygu

Wedi dienyddiad Thomas Cromwell yn 1540, collodd Wyatt un o'i brif gynghreiriaid yn y llys brenhinol. Cafodd ei arestio eto yn 1541. Er hynny, fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Gaint yn 1542, ac ym mis Hydref y flwyddyn honno aeth i groesawu llysgenhadon Siarl V yn Falmouth. Yno fe gafodd ei daro gan dwymyn, a bu farw yn Sherborne, Dorset, yn 38 neu 39 oed, ar 11 Hydref 1542.[1]

Barddoniaeth golygu

Dylanwadwyd ar Wyatt yn gryf gan gerddi serch yr Eidalwyr, yn enwedig Francesco Petrarca. Ysgrifennodd 31 o sonedau, gan gynnwys 10 cyfieithiad o waith Petrarch. Yn ogystal â sonedau, cyfansoddodd Wyatt delynegion, rondeaux, dychangerddi, a salmau. Mae ei thair dychangerdd – "On the Mean and Sure Estate," "Of the Courtier's Life," ac "How to Use the Court and Himself" – yn defnyddio'r ffurf terza rima.

Ni chyhoeddwyd yr un gerdd ganddo yn ystod ei oes. Ymddengys 96 o'i gerddi, am y tro cyntaf, yn Tottel's Miscellany (1557), un o flodeugerddi pwysicaf yr 16g. Canfuwyd rhagor o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau yn y 19g a'r 20g, gan ehangu'r canon i ryw 200 o weithiau. Ymhlith ei ganeuon serch mae "What No, Perdie", "Tagus, Farewell", "Lux, My Fair Falcon," "Forget Not Yet," "Blame Not My Lute," "My Lute, Awake," "In Eternum," "They Flee from Me", ac "Once in Your Grace."

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Sir Thomas Wyatt" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 17 Awst 2019.

Darllen pellach golygu

  • Susan Brigden, Thomas Wyatt: The Heart's Forest (Llundain: Faber & Faber, 2012).
  • A. C. Foxwell, A Study of Sir Thomas Wyatt's Poems (Llundain: University of London Press, 1911).
  • Richard Harrier, The Canon of Sir Thomas Wyatt's Poetry (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1975).
  • Kenneth Muir, The Life and Letters of Sir Thomas Wyatt (Lerpwl: Liverpool University Press, 1963).
  • Peter Murphy, The Long Public Life of a Short Private Poem: Reading and Remembering Thomas Wyatt (Stanford, Califfornia: Stanford University Press, 2019).
  • Nicola Shulman, Graven with Diamonds: The Many Lives of Thomas Wyatt (Llundain: Short Books, 2011).
  • Chris Stamatakis, Sir Thomas Wyatt and the Rhetoric of Rewriting: 'Turning the Word' (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2012).
  • Patricia Thomson, Sir Thomas Wyatt and His Background (Llundain: Routledge & Kegan & Paul, 1964).
  • Patricia Thomson, Wyatt: The Critical Heritage (Llundain: Routledge & Kegan Paul, 1974).