George Tyler
Roedd Syr George Tyler KH, (28 Rhagfyr 1792 - 4 Mehefin 1862) yn swyddog yn Llynges Frenhinol Prydain, yn llywodraethwr trefedigaethol ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Sir Forgannwg.[1]
George Tyler | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1792 |
Bu farw | 4 Mehefin 1862 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog yn y llynges |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Tyler |
Mam | Margaret Leach |
Priod | Harriet Sullivan |
Plant | Louisa Tyler, Augustus Tyler, Harriet Tyler, Anne Maria Tyler, George Henry Tyler, Charles Frederick Tyler, Gwinnett Tyler, Edward Octavious Tyler, Alfred Tyler, John Hobart Tyler, St. Vincent Tyler, Caroline Tyler |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Tyler ym Mhenfro yn fab hynaf y Llyngesydd Charles Tyler.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Llynges Frenhinol Portsmouth.
Priododd, ar 21 Medi 1819, Harriet Margaret, merch y Gwir Anrh. John Sullivan, a'r Ledi Harriet, merch George, trydydd iarll Swydd Buckingham; bu iddynt saith mab a phedair merch. Roedd eu merch, Caroline, yn fam i Windham Henry Wyndham-Quin, AS De Morgannwg 1895 - 1906.[2]
Gyrfa
golyguWedi cyfnod o dair blynedd o hyfforddiant yng Ngholeg y llynges daeth Tyler yn aelod llawn o'r llynges ym 1809. Ym 1811 bu'n ymladd yn erbyn y llynges Ffrengig ym Mae Kiberen oddi ar arfordir Llydaw pan gollodd ei fraich dde, derbyniodd pensiwn gan y llywodraeth o £200 y flwyddyn am yr anaf, ond parhaodd ei yrfa yn y llynges[3]. Gwasanaethodd fel Rhaglaw'r Lluman ar long ei dad oddi ar arfordir Penrhyn Gobaith Da, De'r Affrig cyn cael ei godi'n Comander ym 1815 ac yn Gapten ym 1822. Rhwng 1833 a 1840 gwasanaethodd fel rhaglaw lywodraethwr Ynys St Vincent. Daeth yn llyngesydd wrth gefn ym 1852, ac yn is-lyngesydd ym 1857.
Gyrfa Wleidyddol
golyguPan ddyrchafwyd Edwin Wyndham-Quin i Dŷ'r Arglwyddi ym 1851 etholwyd Tyler yn ddiwrthwynebiad i'w olynu fel yr Aelod Seneddol Ceidwadol. Cadwodd ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1852 ac ymneilltuodd o'r Senedd ar adeg etholiad 1857.[4]
Anrhydeddau
golyguPenodwyd Tylor yn Farchog yn yr Urdd Guelphic ym 1833 a'i urddo'n Farchog ym 1838 fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth wrth drefnu rhyddfreinio caethion St Vincents.
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghastell Dwnrhefn, cartref y teulu Wyndham-Quin yn 69 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. K. Laughton, ‘Tyler, Sir Charles (1760–1835)’, Rev. Andrew Lambert, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 adalwyd 22 Ion 2017]
- ↑ "MAJORWYNDHAMQUINMPBEREAVED - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-10-22. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ "8LOCALlWTJfiLLItrxfiJNUllj - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1862-06-13. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edwin Wyndham-Quin |
Aelod Seneddol Sir Forgannwg 1851 – 1857 |
Olynydd: Henry Hussey Vivian |