Henry Rowlands (hynafiaethydd)
Clerigwr Anglicanaidd a hynafiaethydd o Gymru oedd Henry Rowlands (1655 – 21 Tachwedd 1723). Mae'n mwyaf adnabyddus fel awdur Mona Antiqua Restaurata.
Henry Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 1655 |
Bu farw | 21 Tachwedd 1723 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | archeolegydd, anthropolegydd, hanesydd |
Bywgraffiad
golyguGaned Rowlands yn Llanedwen, Ynys Môn, a chredir iddo gael ei addysgu gartref. Cafodd ei ordeinio yn offeiriad yn 1682, a chafodd fywoliaeth Llanfairpwll a Llantysilio. Yn 1692 cafodd fywoliaeth Llanidan ac eraill yn yr ardal yma.
Ysgrifennodd amryw o lyfrau, ond ei brif waith oedd Mona Antiqua Restaurata, a gyhoeddwyd yn Nulyn yn 1723, gydag ail argraffiad yn 1766. Roedd y llyfr yn trafod hynafiaethau Ynys Môn ac yn ceisio profi mai Môn oedd prif sedd y Derwyddon. Bu'r llyfr yn ddylanwadol iawn, a bu Rowlands yn llythyru ag Edward Lhuyd ac eraill.
Ysgrifennodd yn ogystal draethawd ar hanes plwyfi Môn (yn Lladin), sy'n ffynhonnell hanes lleol bwysig.
Llyfryddiaeth
golygu- Brynley F. Roberts, 'Henry Rowlands' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)
- Henry Rowlands, 'Mona Antiqua Restaurata, 1723' (ail-argraffwyd gan Redesmere Press / Llyfrau Magma, 1993)