Llanedwen

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanddaniel Fab, Ynys Môn, yw Llanedwen[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne-orllewin yr ynys ar lan Afon Menai. Mae'n gasgliad o ychydig o dai ac eglwys (yn hytrach na phentref).

Llanedwen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2°N 4.2°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Eglwys Edwen Sant golygu

Saif yr eglwys, a gysegrwyd i'r santes Edwen, ar ei phen ei hun yng nghanol caeau, ac mae'n nodedig o ran ei bod yn cael ei goleuo a chanhwyllau yn unig. Ail-adeiladwyd yr eglwys yng nghanol y 19g, gan ddefnyddio rhan o adeiladwaith yr hen eglwys. Mae Plas Newydd gerllaw, a cheir beddau sawl aelod o deulu Ardalydd Môn yn y fynwent; ceir hefyd fedd yr hynafiaethydd Henry Rowlands, awdur Mona Antiqua Restaurata, a aned yn y plwyf.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato