Mona Antiqua Restaurata
Cyfrol ddylanwadol gan y clerigwr Anglicanaidd a hynafiaethydd Henry Rowlands (1655–1723) yw Mona Antiqua Restaurata, a gyhoeddwyd yn Nulyn yn 1723, gydag ail argraffiad yn 1766. Mae'r llyfr yn trafod hynafiaethau Ynys Môn ac yn ceisio profi mai Môn oedd prif sedd y Derwyddon.
Ysbrydolwyd Rowlands i ysgrifennu'r llyfr ar ôl myfyrio am flynyddoedd ar arwyddocad yr henebion cynhanesyddol niferus sydd ar Fôn. Ym marn yr awdur roeddynt yn brawf o bwysigrwydd yr ynys yng nghrefydd y Derwyddon, ac yn y gyfrol mae'n olrhain hanes Môn o'r Dilyw hyd amser y Celtiaid. Gyda llawer o ddychymyg a chan datblygu rhai o ddamcaniaethau ieithyddol ffasiynol ei oes, mae'n ceisio profi fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac yn cyflwyno'r Derwyddon fel math o batriarchiaid cyntefig. Ceir disgrifiadau o sawl heneb "derwyddol" ar yr ynys sy'n cael eu cysylltu â defodau tybiedig y Derwyddon. Credai Rowlands fod y ymadrodd 'Môn Mam Cymru' yn tarddu o'r ffaith fod yr ynys wedi bod yn brif ganolfan Gristnogol Cymru yn y cyfnod cynnar hefyd, gan etifeddu ac addasu athroniaeth y Derwyddon.
Bu Rowlands yn llythyru ag Edward Lhuyd ynglŷn ag agweddau ieithyddol yn ei waith a cheir detholiad o rai o lythyrau Lhuyd yn atodiad i'r llyfr. Ceir hefyd restrau o uchel siryddion Môn, ei haelodau seneddol, a'i hoffeiriaid plwyf.
Er nad yw'r damcaniaethau a geir ym Mona Antiqua Restaurata yn cael eu derbyn heddiw, mae'r llyfr yn bwysig iawn i hanesyddion y 18g am ei fod yn dangos sut yr oedd y Cymry, ac eraill, yn gweld hanes cynnar Cymru a'r Celtiaid. Bu'n llyfr hynod ddylanwadol a liwiodd farn a dychymyg sawl cenhedlaeth o ysgolheigion, hynafiaethwyr, beirdd a llenorion ac a chwaraeodd ran bwysig yn nadeni'r 18g yng Nghymru.
Llyfryddiaeth
golyguTestun
golygu- Henry Rowlands, Mona Antiqua Restaurata, 1723 (ail-argraffiad gan Redesmere Press/Llyfrau Magma, 1993)
- Mona Antiqua Restaurata ar Wiki Book Reader
Darllen pellach
golygu- C. L. Hulbert Powell, 'Some notes on Henry Rowland's Mona Antiqua Restaurata,' yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr.. Môn (1952)
- Brynley F. Roberts, 'Henry Rowlands' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)